CWESTIYNAU AC ATEBION COVID-19
Covid-19 Update - 30 September 2022
Pryd fydd y Torch yn ail-agor i'r cyhoedd?
Byddwn yn ail-agor ein drysau i'r cyhoedd ar 1 Medi 2021 gyda sinema gyfyngedig a chynigiad o ddarllediad byw. Bydd seddi wedi eu lleoli ar bellter cymdeithasol yn parhau trwy gydol mis Medi.
Pryd fydd theatr fyw yn dychwelyd?
Rydym yn cynllunio dychweliad i allu llawn o Hydref 2021, pe bai hyn yn parhau i fod yn unol â chyngor diweddaraf y Llywodraeth yr adeg hynny. Bydd hyn ar allu llawn yn y Prif Dŷ a'r Gofod Stiwdio.
Am fwy o wybodaeth ar Covid-19 ymwelwch â gwefan Llywodraeth Cymru yma.
Beth ydy eich oriau agor?
O ddydd Gwener 20 Awst, bydd ein Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Lle bo modd, ffoniwch a siaradwch ag un o aelodau o'n tîm yn hytrach na dod i mewn i'r adeilad.
O ddydd Mercher 1 Medi, bydd ein Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 10am a dechrau'r sioe ddiwethaf neu ddangosiad ffilm y dydd. Bydd y Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul ar ddiwrnodau sgrinio sioe / ffilm.
Beth mae'r Torch yn ei gwneud i ddiogelu diogelwch ei chwsmeriaid pan fydd yn agor ei drysau?
Mae diogelwch ein cwsmeriaid, ein staff a'n gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth gyntaf i'r theatr. Mae aelodau staff gweithredol yn monitro canllawiau diweddaraf y Llywodraeth yn agos wrth weithio gyda'n cyd-gymheiriaid yn y diwydiant i ddarparu gwybodaeth berthnasol am ein cynlluniau i fod yn lleoliad diogel Covid-19.
Gofynnwn i chi barhau i bellter cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl ac, yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol, gwisgo masg wyneb wrth ddychwelyd atom bob amser. Mae yna orsafoedd glanweithio llaw o amgylch yr adeilad cyfan ac wrth i chi gerdded trwy'r drysau i'r Swyddfa Docynnau.
Mae gennym nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod y Torch yn Covid-19 diogel, ac rydym wrth gwrs yn dilyn, ac yn wir yn mynd y tu hwnt i ganllawiau diweddaraf Celfyddydau Perfformio Llywodraeth Cymru.
Mesurau ychwanegol a fabwysiadwyd gan y Torch yn cynnwys:
Amseru'ch ymweliad - byddwn yn darwahanu ein ffilm ac yn dangos amseroedd i osgoi ciwiau. Dewch 15 munud cyn amser cychwyn eich digwyddiad.
Byddwn yn gofyn i chi fewngofnodi, wrth i chi gyrraedd, at ddibenion olrhain a diogelu, os ydych eisoes wedi lawr lwytho ap y GIG gallwch fewngofnodi gyda'r cod QR wrth fynd i mewn i'r adeilad neu ddarparu'ch manylion yn y Swyddfa Docynnau.
Cofiwch wisgo'ch masg wyneb ar bob amser oni bai eich bod wedi'ch eithrio (os felly cofiwch eich cortyn gyda thystiolaeth o eithriad) neu oni bai eich bod yn eistedd i lawr i fwyta ac yfed.
Rydym yn annog pob cwsmer i ddefnyddio e-docynnau neu argraffu tocynnau gartref cyn amser (golyga hyn llai o amserau yn ciwio yn ein cyntedd). Archebwch eich tocynnau ar-lein: os oes angen i chi archebu mwy na phedwar tocyn, os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd neu ymholiadau cyffredinol, siaradwch gydag un o'n tîm Swyddfa Docynnau, a fydd yn hapus i'ch helpu chi, trwy ffonio 01646 695267. Bydd y Torch hefyd yn treialu gwirio tocynnau'n ddigyswllt i leihau ciwiau a lleihau cyswllt.
Sylwch ein bod wedi gwneud newidiadau i'r llwybrau mynediad yn yr adeilad ac mewn rhai ardaloedd rydym wedi datblygu system unffordd i sicrhau pellter cymdeithasol yn y cynteddau. Efallai y bydd gofyn i chi fynd i mewn ac allan trwy wahanol ddrysau. Bydd ein staff a'n gwirfoddolwyr Blaen Tŷ wrth law i'ch cyfeirio chi'r ffordd iawn.
Er diogelwch ein holl gwsmeriaid, byddwn yn gofyn i bawb barchu pellter cymdeithasol trwy'r adeilad yn ystod eich ymweliad.
Pan fyddwn yn ailagor ac ar gyfer mis Medi, caiff seddi’r awditoriwm eu pellhau’n gymdeithasol i sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn teimlo’n ddiogel, bydd hyn yn destun newid yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Er mwyn eich cadw'n ddiogel rydym wedi gwella ein gweithdrefnau glanhau trwy'r adeilad gan gynnwys niwlio'r awditoriwm rhwng dangosiadau a sioeau.
Bydd ein staff yn dilyn mesurau diogelwch llym Covid-19 pan fyddant yn y gwaith a byddant yn cynnal profion llif ochrol yn wythnosol cyn dod i'r lleoliad.
Ar ba gapasiti y gall y Torch weithredu o dan arweiniad y Llywodraeth ar hyn o bryd?
O dan y canllawiau cyfredol, gallwn weithredu hyd eithaf ein gallu. Er hynny, rydym eisiau i bawb sy'n ymweld â'r Torch fod yn ddiogel a theimlo'n gyffyrddus yn y lleoliad. Nid ydym wedi agor ein drysau ers mis Mawrth 2020, mae llawer wedi newid ers hynny. Mae angen ychydig o amser arnom i addasu a dysgu ein ffordd orau ymlaen wrth sicrhau bod y risgiau o amgylch Covid-19 mor isel â phosibl. Ar ôl gwaredu ar y rheolau pellhau 2 fetr, byddwn yn dewis gweithredu rheol bellter cymdeithasol 1 metr + trwy gydol mis Medi ac fel arall byddwn yn cynnal neu'n rhagori ar ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Ein nod yw bod ar allu capasati llawn o ran seddi yn y ddau awditoriwm o 1 Hydref 2021.
Cydnabyddir bod pobl anabl yn fwy agored i'r coronafeirws. Beth mae'r Torch wedi'i wneud a / neu a fydd yn ei wneud i sicrhau bod pobl anabl fel y minnau (gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid) wedi cael eu hystyried ac yn gallu teimlo'n ddiogel yn dychwelyd i'r adeilad?
Yn ychwanegol at y mesurau hynny a grybwyllwyd uchod (sydd wedi'u cynllunio'n arbennig gyda diogelwch y rhai sy'n fwy agored i Covid-19 mewn golwg), rydym wedi dyrannu seddi a mannau i gadeiriau olwyn yn y ddau awditoriwm sydd ar gael i'w harchebu ar gyfer y rheini ag anabledd. Rhaid archebu'r seddi a'r cadeiriau olwyn hyn fesul ein Swyddfa Docynnau ymlaen llaw trwy ffonio 01646 695267. Ni ellir prynu'r seddi hyn ar-lein.
Rydym yn parhau i siarad â'r canllawiau diweddaraf gan Disability, Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Disability Arts Cymru a grwpiau cefnogi mynediad yn cynnwys HYNT am fwy o gyngor ar sut y gallwn groesawu'r anabl yn ddiogel a noddwyr bregus i ddychwelyd i'r theatr.
Am wybodaeth bellach, ymwelwch â'r gwefannau canlynol os gwelwch yn dda:
HYNT https://www.hynt.co.uk/en/
Disability Arts Cymru https://www.disabilityartscymru.co.uk
Arts Wales https://arts.wales
Mind Pembrokeshire https://www.mindpembrokeshire.org.uk
Iechyd yng Nghymru https://www.wales.nhs.uk/
(Nid yw Theatr y Torch yn gyfrifol am unrhyw gynnwys ar y gwefannau uchod)
Beth sy'n digwydd os ydwyf wedi prynu tocynnau ar gyfer digwyddiad ac ni allaf fynychu oherwydd Covid-19?
Rhowch wybod i'n Swyddfa Docynnau cyn gynted ag y gallwch neu hyd at 6 awr cyn amser y sioe trwy ffonio 01646 695267.
Byddwn yn hapus iawn i gynnig credyd i chi sy'n werth eich tocynnau neu eich trosglwyddo i sioe arall yn hwyrach. Rhaid i'r tocynnau fod o'r un gwerth a rhaid talu am unrhyw wahaniaethau ychwanegol mewn gwerth. Ni fyddwn yn gallu rhoi ad-daliadau am eich tocynnau.
Pe bai Theatr y Torch yn canslo sioe am unrhyw reswm gan gynnwys ar gyfer materion sy'n gysylltiedig â Covid-19, byddwn yn rhoi ad-daliad i ddeiliaid tocynnau.
A fydd Café Torch yn ail-agor?
Parhau ar gau fydd Café Torch ym mis Medi. Rydym yn cynllunio ailagor fesul cam o Gafé Torch a'n bariau dros yr Hydref wrth i'r lleoliad ddychwelyd i'w gapasiti llawn. Rydym wedi adnewyddu'r ciosg yn ardal y Swyddfa Docynnau, gan ehangu ei allu, a bydd hwn ar gael i brynu diodydd alcoholig, diodydd poeth ac oer ac ystod o fyrbrydau a losin. Defnyddiwch daliadau cerdyn digyswllt lle bynnag y bo modd.
Beth fedraf ei wneud i helpu?
Byddwch yn amyneddgar gyda ni a dilynwch ein canllawiau Covid-19 orau ag y gallwch. Rydyn ni am i chi deimlo'n ddiogel yn yr adeilad, rydyn ni hefyd eisiau sicrhau bod ein staff, gwirfoddolwyr a'r artistiaid mewn cyn lleied o risg â phosib, fel y gallwch chi gael amser gwych yma pan ymwelwch â ni.
Mae Theatr y Torch yn elusen gofrestredig nid-er-elw, os gallwch chi ein cefnogi ni, waeth pa mor fawr neu fach, ystyriwch roi rhodd yma:
https://www.torchtheatre.co.uk/support-the-torch
Ystyriwch lobïo'ch AS lleol hefyd trwy ysgrifennu atynt i ddweud wrthynt faint mae Theatr y Torch a'r celfyddydau yn ei olygu i chi, yn enwedig yn y rhan hon o Sir Benfro.
Os oes angen i chi gysylltu gyda ni, a wnewch chi e-bostio boxoffice@torchtheatre.co.uk
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.