EICH YMWELIAD
Mae ein sinemâu dwy sgrîn yn dangos y gorau o gelf ty, ffilmiau annibynnol a Phrydeinig yn ddyddiol, ynghyd â ffilmiau newydd a ffilmiau ar gyfer y teulu.
Gall aelodau Meerkat Movie fwynhau tocynnau ffilm 2-am-1 bob dydd Mawrth a Mercher am flwyddyn gyfan.
SUT MAE ARCHEBU

oFfoniwch ein Swyddfa Docynnau rhwng 11am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ar 01646 695267
NEU
Cliciwch isod, dewiswch y dangosiad, archebwch ar-lein ac argraffwch eich tocynnau adref.
MYNEDIAD I BAWB
Mae Theatr y Torch yn croesawu yn ymwelwyr anabl.
Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol neu gwestiynau cysylltwch gydag:
Ein Swyddfa Docynnau ar 01646 695267
neu siarad destun 18001 01646 695267

CONSESIYNAU
Ble mae'r cynnig, mae tocynnau consesiwn yn berthnasol i'r rhai sydd:
- Dros 60
- O dan 16
- Ddi-waith
- Yn fyfyrwyr llawn-amser
- Wedi eu cofrestru'n anabl
PARCIO
Mae parcio ar gael ym maes parcio Stryd Robert oddeutu 200 medr o'r Theatr.
Nodwch nad oes parcio oddi ar y stryd yn Ffordd Sant Pedr neu Stryd Robert Isaf, sydd ar gyfer preswylwyr yn unig. Gall y rheiny sydd â bathodynnau anabl barcio yn y mannau'n syth o flaen y Theatr.

CAFFI TORCH
Mae Caffi Torch ar agor yng ngofal ein Rheolwr Arlwyo Lisa Canton.
Bydd y Caffi ar agor cyn yr holl sioeau byw, ffilmiau a digwyddiadau; yn cynnig bwydlen ddydd blasus a bwrdd o brydau arbennig, mynediad anabl a mynediad i wi-fi rhad ac am ddim.
TAKE A LOOK AROUND...
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.