Noson o Ddawnsio yn y Torch

Fis Medi, bydd sioe theatr newydd sbon gan y gwobrwyedig a’r talentog Stacy Green yn dod i Theatr  Torch gan ddathlu’r enwogion gwych o’r 80au a’r 90au, Annie Lennox a The Eurythmics. Wedi ennill teitl Teyrnged Rhif 1 y DU i Annie Lennox gan y Gymdeithas Asiantau yn y Gwobrau Cerddoriaeth Teyrnged Cenedlaethol, mae'r sioe hon yn un na ddylid ei cholli!

Gyda’i band gwych a’i ‘Dave Stewart’ ei hun gallwch ddawnsio’r noson gyfan i glasuron megis ‘Love is a Stranger’, ‘Here comes the rain again’, ‘Sisters are doing it for themselves’ a’r heb ei hail ‘Sweet Dreams.’ Mae'n rhaid mai Stacy yw’r un sy’n edrych debycach i’r artist benywaidd y gallwch ddod o hyd iddi, i'r fath raddau fel ei bod wedi cyrraedd rownd derfynol categori tebyg i'r gorau yn y Gwobrau Cerddoriaeth Teyrnged Cenedlaethol.

Mae Yourythmics yn sioe a all eich cadw i ddawnsio a chanu i'r holl glasuron ac mae'n cynnwys hen wisgoedd o’r cyfnod yn y sioe ysgafn band llawn hon.

O yrfa gynnar Annie fel un hanner yr Eurythmics ochr yn ochr â Dave Stewart ac i mewn i'w gyrfa unigol, ynghyd â chefndir gweledol teimladwy - mae'r olygfa wedi'i gosod ar gyfer noson ffrwydrol o’r 80au! Gadewch i'r gerddoriaeth eich cludo yn ôl i: There Must Be an Angel (Playing with my Heart), Thorn in my Side, Little Bird, Why, Walking on Broken Glass, Would I Lie to You?, Who’s That Girl?, You Have Placed a Chill in my Heart, When Tomorrow Comes, a llawer mwy....

Bydd Yourythmics yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch nos Sul 22 Medi am 7.30pm. Pris tocyn: £24.50. I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.