FE FYDDWCH CHI'N MYND I'R DDAWNS YN 2021! MAE'R PANTOMEIM GWREIDDIOL A'R GORAU YN Y GORLLEWIN YN DYCHWELYD I THEATR Y TORCH Y TYMOR NADOLIGAIDD HWN

Ym mis Rhagfyr, daw Cwmni Theatr y Torch â phantomeim byw yn ôl i'r llwyfan yn Sir Benfro gydag ailddelwedd o’r stori glasurol dylwythen teg Cinderella. Fel gyda phob pantomeim da, gallwch ddisgwyl llond bol o hwyl, antur, ac eiliadau ble fyddwch yn chwerthin dros y lle. Mae Cinderella yn wledd berffaith ar gyfer y teulu cyfan ac mae’n addo i fod yn llawn hud, comedi a chynnwrf.

Wedi’i gyfarwyddo gan gyfarwyddwr arobryn Cwmni Theatr y Torch, Peter Doran, mae’r cynhyrchiad teulu-gyfeillgar eleni yn gweld rhai wynebau cyfarwydd yn dychwelyd ymhlith amrywiaeth o actorion Cymreig lleol. Bydd hoff Fonesig Sir Benfro, Dion Davies, yn dychwelyd fel un o’r Chwiorydd Salw, Eugiene, a’r hynod hoffus comedïwr a’r actor Dave Ainsworth fydd yn chwarae rhan Dihiryn y Pantomeim, Barron Hardup. Mae’r ddau yn serennu ochr yn ochr â’r actor/cyfansoddwr o Hwlffordd Rosey Cale sy’n chwarae Cinderella.

Mae’r cynhyrchiad hwn hefyd yn croesawu James Mack yn ôl i’r llwyfan wnaeth chwarae’r hynod ddoniol ‘Stanley Stubbers’ yn One Man Two Guvnors. Bydd James yn chwarae’r trwbl dwbl Eugiene a’r chwaer fwyaf pryderferth, Hygiene. Mae Miriam O’Brien hefyd yn dychwelyd i’r Torch fel Dandini. Mae ei rhannau blaenorol yn cynnwys Sleeping BeautyThe Woman in Black a ‘Pauline Clench’ yn One Man, Two Guvnors yn y theatr sydd wedi ei seilio’n Aberdaugleddau.

Yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf ym Mhantomeim Theatr y Torch eleni fydd yr actor o Aberdaugleddau a chyn aelod y Theatr Ieuenctid Samuel Freeman, sy’n chwarae rhan y Tywysog, bydd Gareth Howard o Sir Gaerfyrddin yn ymddangos fel Buttons ac Amelia Ryan fydd yn chwarae rhan y Dylwythen Teg. Yn ddiweddar, graddiodd Amelia o Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant.
|
Ar gastio Cinderella, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch Peter Doran:

“Mae'n debyg fy mod i wedi cyfarwyddo dros 30 o bantomeimiau yn ystod fy ngyrfa ond fy ffefryn yw Cinderella! Mae ganddo'r darn ychwanegol hwnnw o hud ac wrth gwrs, dos dwbl o ferched steilus gyda'r chwiorydd hyll! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r cast gwych rydyn ni wedi'i lunio a chreu sioe hudol i bawb ei mwynhau.”

Cinderella fydd cynhyrchiad 177 gan Gwmni Theatr y Torch. Mae'r cwmni theatr proffesiynol wedi bod yn cynhyrchu sioeau Nadolig i gynulleidfaoedd Sir Benfro ers dros 40 mlynedd. I lawer yn y gymuned leol mae Pantomeim Theatr y Torch yn ddigwyddiad teuluol Nadoligaidd gyda nifer o bobl yn archebu dros 6 mis ymlaen llaw ar gyfer seddi rhes flaen. Yn ystod 18 mis o gau ein drysau oherwydd cyfyngiadau COVID 19, gwelwyd eisiau Theatr y Torch yn fawr gan ei chynulleidfaoedd, hen ac ifanc, yn enwedig felly yn ystod tymor Nadoligaidd 2020. Mae Rhagfyr 2021 yn addo bod yn bantomeim gorau'r theatr eto ac yn sioe deulu ysblennydd llawn hwyl.

Ar ddychweliad y pantomeim, meddai Cyfarwyddwr Gweithredol y Theatr Benjamin Lloyd:

“I gynifer ohonom, mae panto’r Torch wedi cynrychioli ein profiad cyntaf o theatr fyw a thraddodiad annwyl i’r teulu cyfan, ac yn Cinderella mae gennym sioe sydd wir â rhywbeth at ddant pawb! Rydym wrth ein bodd i fod yn croesawu ein cymuned trwy ddrysau’r Torch gyda chyfle perffaith i ddod at ein gilydd unwaith eto i ddathlu cyfnod mor helbulus ar wahân.”

Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer Cinderella sy’n dathlu dychweliad i theatr deulu fyw ar ei gorau ac sy’n arddangos cyfoeth o dalent leol a phroffesiynol Sir Benfro a Chymru gyfan.

Mae modd gweld Cinderella o ddydd Iau 16 i ddydd Gwener 31 Rhagfyr ar wahanol adegau, yn cynnwys perfformiad dehongliad BSL (Dehonglwr Liz May) ar ddydd Iau 16 Rhagfyr a Pherfformiad Hamddenol ar ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr. Gellir archebu tocynnau ar 01646 695267 neu gan glicio yma.

Peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr i archebu eich tocynnau, rydych yn gwybod beth sy’n digwydd wedi hanner nos...

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.