YMUNWCH Â'R CYFLWYNYDD TELEDU A RADIO HESTER GRAINGER YN FYW YN Y TORCH

Ymunwch â'r hyfforddwr ADHD, siaradwr a chyn-gyflwynydd teledu Wright Stuff Hester Grainger YN FYW ar y ffordd gydag ADHD – UNMASKED yn Theatr Torch fis Mai eleni. Bydd yn noson o sgwrs agored, llawn chwerthin gyda golwg adfywiol o onest ar fywyd mewn lle diogel, cewch rannu straeon a phrofiadau mewn noson hwyliog sy’n croesawu pawb.

Hester yw arbenigwr ADHD yn y wasg ac mae'n westai rheolaidd ar bodlediadau. Aeth yn enwog ar ras ar ôl ei hymddangosiad ar ADHD Chatter gydag Alex Partridge, gyda chlipiau o'i phennod yn cael eu gwylio fwy na 22 miliwn o weithiau!

Ymunwch â Hester ar gyfer y noson ryngweithiol a llawn dopamin, ble fydd yn rhannu sut i gofleidio eich ymennydd cyflym, dysgu i fod yn fwy caredig i chi'ch hun a sut i ganolbwyntio ar eich cryfderau. Bydd hefyd yn rhannu ei bywyd fel mam a gwraig i ddau berson ifanc awtistig / ei gŵr awtistig / ADHD, yn siarad am ADHD yn y gwaith, perthnasoedd, cyfeillgarwch, beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod gennych ADHD a llawer, llawer mwy.

Bydd pobl yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a rhyngweithio drwy'r digwyddiad. Mae'n berffaith i'r rhai ag ADHD p'un a ydynt wedi cael diagnosis ai peidio, ffrindiau cefnogol, anwyliaid a chynghreiriaid ADHD. Byddwch yn gadael yn teimlo'n ddyrchafol, wedi'ch grymuso, yn deall mwy amdanoch chi'ch hun a sut mae'ch ymennydd yn gweithio ac yn bwysicaf oll, gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun ar y daith hon.

Dechreuodd Hester Grainger ei gyrfa deledu yn cyflwyno ar The Wright Stuff ar Channel 5. Aeth Hester ymlaen i weithio ar Loose Women a Today gyda Des a Mel. Mae hi wedi ymddangos ar orsafoedd radio gan gynnwys BBC Radio 2, BBC Radio 4, BBC Radio 5 Live a hyd yn oed wedi cynnal ei sioe ei hun ar BBC Radio Berkshire.

Mae Hester wedi bod yn westai ar lu o bodlediadau gan gynnwys ADHD Chatter, The Hidden 20% ac ADHD Women's Wellbeing Podcast. Mae hi wedi ysgrifennu am niwroamrywiaeth ar gyfer cyhoeddiadau gan gynnwys Huffington Post, Evening Standard, Reader’s Digest ac Arabian Business.

Mae Hester ochr yn ochr â'i gŵr Kelly yn gyd-sylfaenwyr Perfectly Autistic, sef ymgynghoriaeth niwroamrywiaeth a lansiwyd ganddynt yn 2020. Maent yn gweithio gyda sefydliadau i gefnogi gweithwyr niwroamrywiol trwy hyfforddiant, sgyrsiau, gweminarau a hyfforddiant.

Mae Hester a Kelly yn niwroamrywiol ar ôl cael diagnosis o ADHD yn ei phedwardegau, ar ôl i Kelly gael diagnosis o awtistiaeth. Mae Hester hefyd yn fam i ddau o bobl ifanc awtistig ac ADHD.

Meddai Hester Grainger: “Rwyf mor gyffrous fy mod yn cael mynd ar daith o amgylch y DU yn siarad am ADHD, sy’n rhywbeth yr wyf mor angerddol yn ei gylch. Ar ôl cael diagnosis yn fy mhedwardegau, rwyf wedi treulio fy oes gyfan yn meddwl tybed pam fy mod yn gwneud pethau mewn ffordd arbennig a nawr rwy’n gwybod pam. Gyda’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth, mae gan lawer o bobl gwestiynau ac maent yn awyddus i ddeall mwy.

“Mae’r noson yn mynd i fod yn sgwrs hwyliog, ddifyr a gonest am ADHD, lle bydd y gynulleidfa’n cael cyfle i ofyn cwestiynau am unrhyw beth dan haul.”

Bydd ADHD UNMASKED fydd ar lwyfan Theatr Torch ar nos Wener 6 Mehefin am 7.30pm. Tocynnau’n £26. Ewch i'r wefan am fanylion pellach www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.