Y Sioe Swigod Anhygoel

Profwch y gorau mewn adloniant swigod sebon yn Theatr y Torch fis Mawrth hwn wrth i Ray, Swigodegwr Rhyngwladol a Deiliad Record Byd Guinness ddod i Sir Benfro gyda The Ultimate Bubble Show. Rhowch help llaw iddo yn ei gwest i gwblhau'r gêm swigen a chreu'r swigen eithaf.

Yn y sioe gyflym hon sy’n llawn egni a syrpreisys, mae Ray yn defnyddio nwyon amrywiol i greu cerfluniau swigod anhygoel, effeithiau ac arddangosfeydd hudol. Mae'r swigod hefyd yn ymddangos mewn gêm gyfrifiadurol fel yr eglura'r Swigodegwr:

“Mae’r sioe yn seiliedig ar gêm gyfrifiadurol gyda deg lefel (a rhai lefelau bonws). Rhaid cwblhau pob lefel i ennill teitl y meistr swigen!” meddai Ray yr wythnos hon.

Mae’n credu’n gryf bod ymarfer yn allweddol i sioe lwyddiannus.

“Mae’n rhaid i mi ymarfer tipyn oherwydd, fel y rhan fwyaf o bethau, mae ymarfer yn gwneud popeth yn berffaith! Mae hefyd yn fy helpu i ddatblygu triciau a syniadau newydd. Mae gweithio mewn cymaint o ysgolion yn fy helpu i gadw fy lefelau i safon uchel ac rwy’n parhau i arbrofi gyda ryseitiau swigod i wneud triciau gwahanol hyd yn oed yn well ac yn fwy rhyfeddol,” esboniodd Ray.

​ Gwyliwch mewn syndod wrth iddo greu swigen llosgfynydd, carwsél swigen sebon, ysbryd swigod a hyd yn oed corwynt y tu mewn i swigen – y cyfan oll ar lwyfan y Torch!

Ymunwch â Ray i weld a all wneud SWIGEN SGWÂR ANHYGOEL pan fydd yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Sul 31 Mawrth am 2pm.

​Prisiau tocynnau ar gyfer The Ultimate Bubble Show: Teulu: £42. Oedolyn £12.50. Plant: £10.50. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.