Y GORAU O YMGYSYLLTU Â'R GYMUNED
Mae’r Fonesig Colin a Daisy’r Fuwch, masgotiaid pantomeim Theatr Torch, yn sicr wedi denu sylw’r cyhoedd yn Sioe Amaethyddol Sir Benfro wrth iddyn nhw orymdeithio o amgylch maes y sioe. O ymweld â stondin Clwb Ffermwyr Ifanc i gynhyrchwyr bwyd amrywiol, pebyll peiriannau fferm a’r sied wartheg, roedd y ddau gymeriad hoffus yn gwneud i bawb wenu ble bynnag yr aethant.
Wedi’i lleoli ym mhabell Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ger y prif gylchoedd marchogaeth, denodd stondin liwgar Theatr Torch gefnogwyr newydd a ffyddlon. Gwisgodd llawer ddillad o bantomeimiau'r gorffennol a thynnu eu lluniau gyda'r Fonesig Colin a Daisy.
Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch, Chelsey Gillard, wrth ei bodd bod cymaint o bobl wedi galw draw i stondin y Theatr.
“Roedd yn arbennig gweld pawb. Roedd y llif o bobl drwy’r babell yn wych a bu modd i ni hyrwyddo ein digwyddiadau oedd ar y gweill, o sinema a darllediadau byw i theatr a cherddoriaeth. Roedd yn wych dod â hud Theatr Torch i’r bobl, i ymgysylltu â nhw ac i hyrwyddo ein gwaith yma yn Aberdaugleddau.”
Roedd bod yn rhan o Sioe’r Sir hefyd yn gyfle delfrydol i lansio dau ddigwyddiad yn y Torch fel yr eglura Chelsey:
“Fe gyhoeddon ni ein cynhyrchiad hydrefol, sef dychweliad o’r Grav hoffus a fydd yn cael ei pherfformio gyda ni ym mis Hydref i ddathlu deng mlynedd o deithio’r byd. Lansiwyd ein Cystadleuaeth Dylunio Set Jack and the Beanstalk hefyd i’r plant – bydd mwy o fanylion i'w gyhoeddi chwap. Roedd yn galonogol derbyn adborth mor dda gan aelodau o’n cynulleidfa a siarad am ein hamrywiaeth o weithgareddau. Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl, ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf.”
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.