WiFi Wars Adolygiad - Riley Barn

Sioe ryngweithiol yw Wifi Wars lle mae'r gynulleidfa'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth yn erbyn gweddill y gwylwyr gyda thro yn y gynffon. Caiff y gemau eu eu darlledu ar eich ffôn ac mae'r mwyafrif yn gemau 8 bit clasurol yn amrywio o Pac Man i Pong. Cewch eich cyflwyno i'r gemau yma gyda chymorth y gwesteiwr, Steve McNeil, digrifwr a sylwebydd gemau fideo.

Rhaid cyfaddef, pan glywais am Wifi Wars roeddwn i wedi fy nrysu. Nid oeddwn erioed wedi clywed amdano a chefais sioc ar unwaith o glywed ei fod yn y Torch. Ar ôl ychydig o waith ymchwil, fe wnes i ddarganfod mwy amdano ac roedd yn ymddangos yn ddiddorol, ond doeddwn i ddim yn gyffrous iawn o wybod dim ond darnau bach amdano, felly pan gerddais i mewn i'r theatr, roeddwn i'n barod am rywbeth a fyddai'n beth bach hwyliog ond yn ddim byd ysgytwol. Ond roeddwn i'n anghywir. Gan ddefnyddio cyfarwyddiadau syml ar y sgrin roeddwn i, ynghyd â phawb arall, yn gallu chwarae rhai gemau clasurol mewn amgylchedd cystadleuol a hwyliog gan annog gwaith tîm a sgil mewn gemau a chwisiau lle roedd dwy ochr yr ystafell yn brwydro am bwyntiau. Rwy’n hapus i ddweud mai fy ochr innau, yr ochr dde a gwell, enillodd y gystadleuaeth ond ychwanegodd hynny at y mwynhad gyda’r rhan fwyaf o bobl yn dangos brwdfrydedd pryd bynnag y dangoswyd y sgoriau. Rydych chi'n gallu dewis eich enw a llun proffil rydych chi'n ei dynnu (neu rydych chi'n cael cath giwt) sy'n cael ei ddangos ar bwynt yn ystod y gêm.

Oherwydd ei fod yn hwyl, cefais fy siomi o weld pa mor fyr oedd y sesiwn. Roedd yn para rhwng 30 munud ac awr, felly byddwn wedi hoffi chwarae am gyfnod hirach gan ganiatáu ar gyfer chwarae mwy o gemau da am gyfnod hirach ac amrywiaeth fwy o gemau clasurol a mwy newydd. Hoffwn hefyd ychwanegu bod hyn yn gofyn am ffôn wedi'i wefru'n llawn yn ddelfrydol ond nid oes angen cysylltiad wifi arno gan fod un yn cael ei ddarparu i chwarae felly, gellir chwarae Wifi Wars ar bob ffôn symudol sy'n helpu i roi ystod fwy o hygyrchedd iddo ac yn galluogi cynulleidfa fwy i chwarae. Rwy'n meddwl y dylai mwy o bobl wybod am hyn oherwydd ei fod yn ffordd hwyliog o chwarae yn erbyn pobl mewn gemau sydd fel arfer yn methu â chwarae'n gystadleuol, oherwydd ble arall ydych chi'n mynd i chwarae Pac Man cystadleuol?

Roedd hwn yn ffordd wirioneddol hwyliog o chwarae gemau, a gobeithio y bydd mwy o bobl yn clywed am hyn ac yn rhoi cynnig arni yn union fel y gwnes innau, oherwydd cefais amser gwych yn chwarae.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.