RYDYM YN ÔL

Rydym yn ôl

Rydym wir wedi gweld eich eisiau, ac rydym yn gwybod eich bod chithau wedi gweld ein heisiau ni hefyd.

Ar ddydd Mercher 1 Medi 2021, byddwn yn ail-agor ein drysau i'n cynulleidfaoedd. Mae wedi bod yn 18 mis hir ers i ni ein gweld chi ddiwethaf: rydym oll wedi bod trwy sut gymaint, ac rydym yn edrych ymlaen i ddod ynghyd er mwyn ein cariad tuag at y celfyddydau, theatr fyw, a'r sgrin fawr. Mae'r disgwyl bron â dod i ben, a byddwn yn ail gynnau'r golau ac yn codi'r llen unwaith eto. Edrychwn ymlaen yn arw at weld ein cymuned yn dychwelyd yma i'r Torch unwaith yn rhagor.

Mae ein staff wedi bod yn hynod o brysur yn paratoi'r Torch. Rydym bron yno, ond mae angen ychydig bach mwy o amser arnom i roi ein rhaglen ail-lansio ar waith. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad llawn o'n cynlluniau, ein rhaglen ac yn hollbwysig ein mesurau Covid (rydym am eich cadw'n ddiogel) ar ddydd Gwener 20fed Awst. Bydd ein rhaglen sinema a darllediad byw sydd ar ddod yn mynd ar werth o Awst 20fed ac fel diolch arbennig i chi am eich cefnogaeth barhaus bydd llawer i syrpreis ar eich cyfer ym mis Medi.

Yn y cyfamser, mae ein rhaglen fyw yn barod i'w gweld o fis Hydref ymlaen ac mae tocynnau ar gael i'w prynu ar-lein ar gyfer ein sioeau sy'n cynnwys Cinderella, ein pantomeim Nadoligaidd (Oh ydyn mae nhw!). Mae llinellau teleffon ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am – 4pm. A wnewch chi ein ffonio ar 01646 695267 os oes angen unrhyw help arnoch wrth archebu, bydd ein tîm yn fwy na hapus i'ch cynorthwyo.

Braf yw cael dychwelyd ac yn fwyaf pwysig, i fod yn gallu eich croesawu chi yma wyneb yn wyneb o fi Medi.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.