Adolygiadau Gwych ar gyfer Comedi Dywyll sy'n Archwilio Atgofion a Dewisiadau Mewn Bywyd
Enillydd y Perfformiad Gorau a’r Darn Newydd Gorau yng Ngŵyl Ymylol Birmingham 2023 ac Enillydd y Cynhyrchiad Theatr Gorau yng Ngŵyl Ymylol Buxton 2024 – mae Fluff, sydd wedi ennill gwobrau, yn ymweld â Theatr Torch fis Mawrth yma. Bydd y ddrama yn mynd ag aelodau’r gynulleidfa ar daith fythgofiadwy gan ddatgelu’n hatgofion tywyllaf a mwyaf gwerthfawr.
Mae’n bryd i Fluff wneud y pos eithaf… ei bywyd. Ond mae Fluff yn casáu posau; yn enwedig chwileiriau. Ni all hi byth ddod o hyd i'r geiriau ac nid yw'n deall pam mae cacen pen-blwydd wedi hanner ei bwyta a menyw sy'n ymweld â'i hystafell o hyd. Wrth iddi lywio ei ffordd trwy atgofion, mae angen dirfawr i Fluff roi ei bywyd at ei gilydd; stori wrth stori, person wrth berson.
Mae llinell plot Fluff yma yn Theatr Torch ar ddydd Sul 2 Mawrth yn caniatáu i’r gynulleidfa deimlo’n uniongyrchol, effeithiau dinistriol dementia, trwy ymuno â Fluff ar ei thaith i ddadorchuddio atgofion ei bywyd.
Mae Fluff, a ysgrifennwyd gan Tayla Kenyon a James Piercy, yn falch o gael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, W3RT, Cymdeithas Alzheimer, Trauma Breakthrough UK a Herts Musical Memories.
Wedi’i chynhyrchu gan Teepee Productions a Joe Brown, mae’r sioe un fenyw wedi’i disgrifio fel “Darn meddylgar o theatr sy’n bownsio rhwng y gorffennol a’r presennol yn ddiymdrech i bob golwg, daliodd fy sylw o’r dechrau i’r diwedd.” ★★★★ gan y LondonTheatre1. Rhoddodd Bum On A Seat bum seren i’r sioe gan ddweud “Nid darn o fflwff yn unig mo hon – mae gan y sioe raean,” gyda 1ShowMore yn ei disgrifio fel “Darn o theatr sy’n procio’r meddwl.”
Mae Teepee Productions, sy’n gyfrifol am Fluff, yn ymfalchïo mewn gwaith sy’n darparu ar gyfer cymunedau ac yn archwilio cymhlethdod y natur ddynol a pherthnasoedd. Maen nhw wrth eu bodd yn cynhyrchu gwaith sy’n cael ei yrru gan gymeriadau gyda deialog ffraeth, onest, yn ymwneud ag ystod o gynulleidfaoedd, gan ofyn iddyn nhw fyfyrio ar y byd rydym yn byw ynddo.
Bydd Fluff yn fyw ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Sul 2 Mawrth am 7.30pm. Yn addas ar gyfer y rheiny 15+. Pris tocyn: £15. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.