Adloniant i’r Teulu Cyfan yn Theatr Torch!

O Bort Talbot i Lanelli a Phorthcawl i Lanbedr Pont Steffan, mae Sêr Reslo Cymru ar y ffordd o amgylch y wlad ac yn paratoi i greu twrw! Byddant yn dod â’u sioe adloniant teuluol yn fyw i Theatr Torch, Aberdaugleddau, ar gyfer strafagansa un noson na fyddwch am ei cholli!

Ers ei sefydlu yn 2005, mae Welsh Wrestling wedi cadarnhau ei statws fel y prif grŵp hyrwyddo reslo yng Nghymru, gan gynnal sioeau reslo o’r safon uchaf ar hyd a lled y wlad mewn rhai o’r lleoliadau a’r theatrau mwyaf mawreddog. Pob blwyddyn, mae Sêr Reslo Cymru yn perfformio o flaen miloedd o gefnogwyr, gan sicrhau noson allan llawn hwyl i'r teulu.

Dewch i weld y strafagansa reslo yn y Torch sy’n sicr o gael plant (ac oedolion) i sgrechian a bloeddio dros eu hoff reslwr a chreu atgofion sy’n para am oes. Galwch draw i'r Torch a gweld yr hudoliaeth a'r anhrefn yn yr arddangosfa hon o adloniant ac athletau mewn noson allan gofiadwy i'r teulu.

Mae gan dudalen Facebook Reslo Cymru wybodaeth am ei thaith o amgylch Cymru gydag adborth cadarnhaol gan sawl aelod o’r gynulleidfa gydag un yn dweud:

“Am noson wych. Roedd fy nau ŵyr wrth eu bodd â phob munud o’r sioe. Sioe wych wedi ei dylunio gyda theuluoedd mewn golwg. Byddaf yn argymell hyn yn fawr i'r holl ffrindiau a theulu. Diolch am noson wych!”

Bydd Welsh Wrestling yn fyw yng nghylch bocsio Theatr Torch ar ddydd Sul 23 Chwefror am 5pm. Pris tocynnau: Teulu: £45. Oedolyn: £15. Plant: £12. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.