NOSON GWIS CYFRWNG CYMRAEG UN THEATR Y TORCH

Hoffech chi gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, Boduan ym mis Awst eleni? Wel, os wnewch chi gymryd rhan yng nghwis Menter Iaith Sir Benfro, a’ch bod yn ennill, fe allech chi gael tocyn am ddim i fynychu’r Eisteddfod a chynrychioli’ch sir.

Cynhelir y cwis ar nos Iau 13eg o Orffennaf yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau gyda thîm gweithgar Menter Iaith Sir Benfro wrth y llyw. Y cwis meistri fydd Rhidian Evans o Fenter Iaith Sir Benfro a Tomos Hopkins o Ddysgu Cymraeg Sir Benfro, ac yn ôl y sôn, fe fydd ‘na dipyn o hwyl mewn awyrgylch hamddenol.

“Y llynedd, fe wnaethom ni gynnal y cwis am y tro cyntaf yng Nghlwb Rygbi Arberth gyda’r tîm buddugol yn cystadlu ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod ym Maes D (Dysgwyr) yn Eisteddfod Tregaron. Cawsom noson hwyliog gyda sawl tîm yn cystadlu yn y cwis dwyieithog sy’n addas ar gyfer pawb,’ meddai Rhidian Evans o’r Fenter.

Y bwriad yw bod pob Sir ar draws Cymru yn cynnal cwis gyda’r cwestiynau’n generig a sawl cwestiwn am yr ardal leol wedi eu cynnwys yn benodol i bob ardal. Mae Mentrau Iaith Cymru yn gweithio ar y cyd gyda Chanolfan Dysgu Cenedlaethol i drefnu’r digwyddiad a’r ffeinal pan ddaw cystadleuwyr i ben ben yn y babell liwgar.

Ychwanegodd Rhidian: “Penderfynodd y Fenter ddewis lleoliad gwahanol eleni a’r rheswm dros hynny yw bod nifer o ddysgwyr Cymraeg yn byw yn ardal y Torch ac Aberdaugleddau. Roeddwn am gefnogi’r theatr gan ein bod wedi cydweithio gyda nhw yn y gorffennol ac yn falch iawn bod tipyn o ddiddordeb gyda’r Cymry, y dysgwyr a’r rheiny sy’n cefnogi sesiynau Coffi Cymraeg a gynhelir yn y Torch i fynychu’r digwyddiad hwn.”

Cynhelir rownd derfynol y cwis ar 5 Awst ar safle’r Eisteddfod Genedlaethol.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â Margaret@mentersirbenfro.com, Swyddog Datblygu’r Fenter.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.