Y GERDDORFA SIAMBR GYMREIG

Fel rhan o’i Thaith Haf ar draws Cymru, bydd y Gerddorfa Siambr Gymreig yn ymweld â Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ddydd Gwener 16 Mehefin. Wedi’i sefydlu i lenwi’r bwlch ym mywyd creu cerddoriaeth Cymru rhwng perfformiadau unawd ac ensembles cerddoriaeth siambr fach a rhai’r gerddorfa symffoni, ni ddylid colli’r noson hon o lawenydd pur.

Ers ei sefydlu ym 1986, mae’r Gerddorfa wedi perfformio gyda nifer o unawdwyr gorau’r byd, ac wedi ymgymryd â sawl taith gyngerdd Ewropeaidd yn ogystal â pherfformio ar draws y DU. Am nifer o flynyddoedd bu’n gerddorfa siambr breswyl yng Nghyfres Cyngherddau Rhyngwladol Abertawe lle bu ei pholisi arloesol o roi ail berfformiadau o weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig yn hynod lwyddiannus.

Mae'r Gerddorfa wedi recordio nifer o raglenni teledu gan gynnwys cyfres Opera sydd wedi ennill gwobrau Gŵyl Ffilm Efrog Newydd. Disg o weithiau gan William Mathias oedd eu CD masnachol cyntaf, ac mae dwy gryno ddisg o weithiau Alun Hoddinott wedi’u rhyddhau ers hynny. Mae CD pellach o weithiau Michael Tippett i’w gyhoeddi. 

Rhan allweddol o bolisi artistig y gerddorfa yw perfformio yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru sy’n gymharol dlawd o ran achlysuron i glywed cerddoriaeth gerddorfaol o gymharu â rhannau eraill o’r wlad. Mae preswyliad ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi galluogi darparu cyngherddau ysgolion yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan gyflwyno miloedd o blant ysgol i’w profiad cyntaf o gyngherddau cerddorfaol byw. Mae’r gerddorfa’n falch o fod yn gysylltiedig â Chanolfan William Mathias yng Nghaernarfon.

Bydd y Gerddorfa Siambr Gymreig yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Gwener 16 Mehefin am 7.30pm. Tocynnau’n £16 / Consesiynau: £15. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.