MAE'R DARLLEDWR O GYMRU, S4C, YN COMISIYNU ADDASIAD TELEDU O SIOE UN DYN BOBLOGAIDD TORCH THEATRE COMPANY, GRAV
Mae pennod newydd ar fin cael ei hysgrifennu ar stori lwyddiant barhaus wrth i'r cynhyrchiad ddechrau ar ddrama arbennig sy'n talu teyrnged i wir arwr gwerin Cymru. Wedi’i haddasu ar gyfer teledu o’r ddrama lwyfan * arobryn o’r un enw gan Owen Thomas, mae ‘Grav’ yn ffilm am fywyd personoliaeth ddiwylliannol a chwaraeon Cymru, Ray Gravell, un o ffigurau mwyaf parchus rygbi Cymru.
Dros y chwe blynedd diwethaf, mae drama lwyfan Cwmni Theatr y Torch, a ysgrifennwyd gan Owen Thomas, a gyfarwyddwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Peter Doran, ac a berfformiwyd gan Gareth John Bale, wedi cael ei gweld gan filoedd o aelodau’r gynulleidfa ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae hefyd wedi teithio i Washington ac Efrog Newydd. Caiff ‘Grav’ ei hystyried yn eang fel y ddrama a wnaeth ysbrydoli tîm Rygbi Cymru i ennill Pencampwriaeth 6 Gwlad Men’s Guinness 2018, yn dilyn ei pherfformiad i dîm Cymru yn Stadiwm y Principality cyn eu buddugoliaeth enwog dros Loegr. Nawr, parhau mae stori ‘Grav,’ wrth iddi wneud y naid o’r llwyfan i’r sgrin, yn y rhaglen un tro mewn bywyd, a fydd yn cael ei dangos ar S4C ym mis Medi.
Yn dilyn ei bortread cofiadwy ar y llwyfan o Ray Gravell yn y sioe un dyn hynod, mae Gareth John Bale yn ailadrodd rôl ‘Grav’. Bydd y cyfarwyddwr arobryn Marc Evans, sydd wedi gweithio ar raglenni megis The Pembrokeshire Murders, Manhunt ac Y Bomiwr a'r Tywysog, yn cyfarwyddo addasiad teledu y sioe.
Meddai Owen Thomas, awdur Grav:
“Rwy’n falch iawn o weithio gyda Marc Evans ac S4C wrth i ‘Grav’ barhau gyda rhan nesaf y siwrnai anhygoel hon wnaeth oll ddechrau yn yr hyfryd Theatr y Torch.”
Dywedodd Branwen Cennard, cyd-gynhyrchydd ‘Grav’ ar addasu’r ddrama lwyfan ar gyfer y sgrin:
"Mae gweithio ar brosiect fel hwn, i greu addasiad teledu o sioe lwyfan hynod lwyddiannus Owen Thomas, yn gyffrous iawn. Mae'r ddrama wreiddiol yn mynd at wraidd yr hyn a yrrodd Ray fel person a chafodd y sioe ganmoliaeth byd-eang."
"Wrth addasu'r sioe o'r theatr i ffilm a theledu, mae'r ddrama wedi datblygu'n sylweddol ond erys y stori yr un fath, a gobeithiwn y bydd yr haenau gweledol ychwanegol, o dan arweiniad y cyfarwyddwr Marc Evans, yn codi'r cynhyrchiad at lefel hyd yn oed yn uwch," ychwanegodd Branwen.
Dyma a ddywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Peter Doran, ar bennod nesaf ‘Grav’:
“Mae’r ddrama’n parhau i’m synnu. Rydym wedi perfformio’r sioe oddeutu 120 o weithiau, wedi gwerthu pob tocyn yng Nghaeredin (Fringe Festival), wedi mynd â hi i America ddwywaith, oni bai am Covid byddem yn Ne Affrica y mis nesaf. Cawsom ein gwahodd i ŵyl Adelaide, gwnaethom agor Cwpan Rygbi'r Byd olaf ac yn awr mae'n cael ei haddasu ar gyfer y teledu, dwi ddim yn gwybod ble fydd ei therfyn. Ni allaf feddwl mewn gwirionedd am unrhyw ddramâu Cymreig newydd eraill sydd wedi cael taith o'r fath. Mae'r cyfan yn gyffrous iawn.”
Yn adnabyddus i filiynau am ei gampau chwedlonol ar y cae rygbi, roedd ‘Grav’ yn gymaint mwy na hynny. Actor, eicon diwylliannol, tad, gŵr, dyn â bywyd yn llawn straeon sy'n haeddu cael eu clywed unwaith yn rhagor. Ers ei farwolaeth yn 2007, diolch i straeon am ei ddewrder ar ac oddi ar y cae, mae chwedl Ray Gravell wedi parhau i dyfu. Yn ‘Grav’, bydd y chwedl hon yn tyfu ymhellach fyth…
* Enillydd Gwobr Laurel - Gŵyl Ymylol Caeredin, 2015, Cynhyrchiad Gorau - Gwobrau Theatr Cymru, 2016
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.