Ymateb Cyhoeddus Anhygoel I Weithgareddau Lle Cynnes Gyda Chymorth Y Loteri Genedlaethol

Fe wnaeth rhaglen newydd sbon o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn Theatr Torch o’r enw Lle Cynnes yn y Torch dderbyn ymateb anhygoel gan y gymuned yn Sir Benfro. Ar ddiwedd y prosiect a wnaeth gynnwys dros 30 o ddigwyddiadau a ddarparwyd ar draws cyfnod o 12 wythnos, gyda nifer yn orlawn, ni allai’r gweithgareddau fod wedi bod yn fwy poblogaidd.

“Mae bob amser yn risg rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ac roedd hyn yn dipyn o her i ni (fel yr oedd rhywfaint o’r gweithgareddau i’n cyfranogwyr), ond gyda’n gilydd rydym wedi bod ar daith arbennig ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd meddwl a llesiant pobl, gan gynnwys ein tîm anhygoel,” esboniodd Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned y Torch.

“Roedden ni am agor ein drysau a chroesawu cymaint o wynebau newydd â phosib. Rwy'n credu ei fod wedi llwyddo oherwydd fe aethon ni i mewn iddo heb unrhyw ddisgwyliadau - roedden ni am wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod bod rhywbeth yno iddyn nhw,” ychwanegodd.

Daeth nifer anhygoel o bobl i’r sesiynau wythnosol a gynhaliwyd rhwng Ionawr a Mawrth ac roeddent yn cynnwys ioga cadair, celf, dosbarthiadau drama Cymraeg a chlwb llyfrau wedi’u hanelu at bobl dros 50 oed. Gwnaed hyn oll yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Wrth i’r prosiect ddod i ben mae’r Torch wedi bod yn casglu adborth sydd wedi bod yn hynod gadarnhaol gydag un cyfranogwr yn dweud: “Rhoddodd reswm i mi godi’n gynnar ac allan o’r tŷ. Mae gen i ymdeimlad o agoraffobia ac yn aml yn aros yn y tŷ am ddyddiau os nad oes gen i reswm cadarn i fod yn rhywle arall.” Ychwanegodd un arall: “Fe wnaeth y sesiynau rhoi gobaith a oedd wir ei angen, hefyd ymdeimlad o bwrpas a pherthyn.”

Er hynny, rhaid i bob peth da ddod i ben.

Meddai Tim: “Yr unig gŵyn yw bod pobol yn drist bod y cyfan dros am nawr ac allwn i ddim cytuno mwy!”

Parhaodd: “Fe fûm mor ffodus i dderbyn cefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a dalodd am gost yr holl weithgareddau. Mae nawdd fel hyn gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a noddwyr corfforaethol yn hanfodol i sicrhau bod aelodau o'n cymuned yn parhau i gael mynediad at weithgarwch creadigol o ansawdd uchel yma yn Sir Benfro. Gallwch chithau hefyd fod yn rhan o hynny drwy ddod yn aelod neu wneud cyfraniad untro neu ddarparu nawdd corfforaethol – rydym bob amser yn chwilio am bobl a chwmnïau i gefnogi ein gweithgaredd ymgysylltu cyffrous nesaf!”

Gan orffen meddai Tim: “Hoffai Theatr Torch ddiolch i’r holl weithwyr proffesiynol anhygoel o Sir Benfro a wnaeth arwain y sesiynau – Bethan Jones, Chris Prosser a Freya Dare. Hebddynt, ni fyddem wedi gallu darparu ystod mor gyffrous o weithgareddau. Rydym wedi dysgu cymaint ers i ni gynnig y ddarpariaeth hon am yr hyn y mae pobl yn ein cymuned ei eisiau a’i angen. Mae gennym amryw o gynlluniau uchelgeisiol ar y gweill felly cadwch lygad craff ar ein gwefan.”

Llun Gan: Media to Motion

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.