Arddangosfa Unwaith Mewn Canrif – EOS: Van Gogh: Poets & Lovers

200 mlynedd ar ôl ei hagor a chanrif ar ôl caffael ei gweithiau Van Gogh cyntaf, mae’r Oriel Genedlaethol, Llundain yn cynnal arddangosfa Van Gogh fwyaf erioed y DU a bydd yn cael ei sgrinio yma yn y Torch ddydd Iau 14 Tachwedd. Mae Van Gogh nid yn unig yn un o'r artistiaid mwyaf annwyl erioed, ond efallai'r un sy'n cael ei gamddeall fwyaf hefyd.

Mae'r ffilm hon yn gyfle i ail-edrych a deall yr artist eiconig hwn yn well. Gan ganolbwyntio ar ei broses greadigol unigryw, mae Van Gogh: Poets & Lovers yn archwilio blynyddoedd yr artist yn ne Ffrainc, lle chwyldroi ei arddull. Daeth Van Gogh yn frwd dros adrodd straeon yn ei gelf, gan droi'r byd o'i gwmpas yn ofodau bywiog, delfrydol a chymeriadau symbolaidd.

Llanwodd beirdd a charwyr ei ddychymyg; roedd popeth a wnaeth yn ne Ffrainc yn gwasanaethu'r obsesiwn newydd hwn. Yn rhannol, dyma achosodd ei chwalfa ddrwg-enwog, ond ni ddaliodd ei greadigrwydd yn ôl wrth iddo greu campwaith ar ôl campwaith. Archwiliwch un o gyfnodau mwyaf canolog hanes celf yn y sioe unwaith-mewn canrif hon.

Gweler yn agos ei ‘Starry Night over the Rhône’ (1888, Musée d’Orsay) a ‘The Yellow House’ (1888, Amgueddfa Van Gogh), yn ogystal â’n ‘Sunflowers’ (1888) a ‘Van Gogh’s Chair' (1889), ymhlith nifer o rai eraill.

Wedi’i wneud mewn cydweithrediad agos â’r Oriel Genedlaethol, fe’i cyfarwyddir gan David Bickerstaff a’i chynhyrchu gan Phil Grabsky.

Mae Van Gogh: Poets and Lovers i’w gweld yn Theatr Torch nos Iau 14 Tachwedd am 7pm. Pris tocyn: £13. I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.