Valero Yn Cefnogi'r Torch Yn Ei Phantomeim Mwyaf Anturus A Disglair Erioed
Gydag wythnos yn unig i fynd cyn y perfformiadau cyhoeddus o bantomeim Nadoligaidd Jack and the Beanstalk, mae Theatr Torch, Aberdaugleddau, yn falch iawn o gael cefnogaeth Valero Energy Corporation fel ei noddwr Pantomeim hael eleni. Mae tua 10,000 o bobl ifanc ac oedolion yn gweld y pantomeim yn flynyddol, ac roedd pantomeim y llynedd Sleeping Beauty wedi torri pob record.
Mae Theatr Torch yn croesawu oddeutu 4,000 o blant ysgol a’u hathrawon i weld y pantomeim yn flynyddol. Maent yn derbyn pecynnau addysgol gyda gweithgareddau’n cael eu dosbarthu i gefnogi dysgu i bob ysgol sy’n mynychu. Mae dros 6000 o bobl yn dod i’r sioeau cyhoeddus, i ganu, i glapio ac i godi calon, gan sicrhau nid yn unig cyfranogiad y gynulleidfa ond ymgysylltiad cymunedol.
Dywedodd Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch:
“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Valero i ddod â hud y pantomeim i’r Torch unwaith eto. Mae’r cymorth hwn yn ein galluogi i gadw prisiau tocynnau mor fforddiadwy â phosibl i bawb, a sicrhau bod ysbryd yr ŵyl yn cyrraedd cymunedau ar draws Sir Benfro a thu hwnt. Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym, yn enwedig yn ystod wythnos y Nadolig ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld.”
Wedi'i sefydlu ym 1980, Valero Energy Corporation yw'r purwr petrolewm annibynnol byd-eang mwyaf, ac mae'n ddosbarthwr a marchnatwr rhyngwladol o danwydd cludo. Dyma'r ail gynhyrchydd ethanol corn mwyaf yn y byd ac mae'n cynhyrchu ac yn gwerthu disel adnewyddadwy.
Mae’r cwmni rhyngwladol, sydd wedi bod yn bresennol yn Sir Benfro ers iddo brynu Purfa Penfro yn 2011, yn falch iawn o gefnogi Theatr Torch.
“Mae eleni’n nodi pen-blwydd Purfa Penfro yn 60 oed sydd â thraddodiad hir a balch o gefnogi’r celfyddydau yma yn Sir Benfro ac nid oes traddodiad coethach adeg y Nadolig na phantomeim,” meddai Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero Energy Corporation.
“Mae Jack and the Beanstalk yn ffefryn gan y teulu, ac rydym wrth ein bodd yn chwarae ein rhan i helpu cynhyrchiad y tymor hwn yn y Torch.
“Mae rhagoriaeth a chynwysoldeb yn chwarae rhan fawr yn ethos Valero sy’n cyd-fynd ag ethos Theatr Torch a’i chynyrchiadau rhagorol i’r teulu cyfan eu mwynhau.”
Gan ddod i glo, meddai Chelsey: “Panto yw digwyddiad mwyaf bywiog ein blwyddyn yma yn y Torch, ac rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gyda Valero ar Jack and the Beanstalk. Diolch yn fawr iawn i bawb yn Valero am y gefnogaeth hael hon.”
Bydd Jack and the Beanstalk yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o nos Wener 13 Rhag – Sul 29 2024 gyda pherfformiadau prynhawn a chyda’r hwyr. Pris tocyn: £23.50 | £19.50. Consesiynau | £75.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad BSL - Dydd Mawrth 17 Rhagfyr am 6pm.
I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
Llun gan: Chris Lloyd Photography
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.