Gan ddod â gwefr theatr o safon fyd-eang i’n sgrin sinema yma yn Sir Benfro a chynnig golygfa o’r sedd orau yn y tŷ i gynulleidfaoedd

Tymor Sinema'r Royal Opera a Bale yn Theatr Torch

main image for royal opera house season

Gyda chlasuron annwyl gan gynnwys Cinderella, The Nutcracker a Turandot a chynyrchiadau opera newydd o The Tales of Hoffmann a Die Walküre, bydd cefnogwyr y Royal Ballet ac Opera wrth eu bodd â’r amrywiaeth o ddangosiadau sinema yma yn Theatr Torch yn ystod 2024 a 2025.

Gan ddod â gwefr theatr o safon fyd-eang i’n sgrin sinema yma yn Sir Benfro a chynnig golygfa o’r sedd orau yn y tŷ i gynulleidfaoedd, mae’r rhaglen gyffrous yn rhannu llawenydd perfformiadau byw, a harddwch celf o safon fyd-eang,

Dywedodd Cyfarwyddwr y Royal Ballet, Kevin O’Hare:

“Y tymor hwn, rydym wrth ein bodd yn rhannu tri chlasur deinamig gan y Cwmni gyda’n cynulleidfaoedd sinema: Alices Adventures in Wonderland, sy’n ddyfeisgar, gan Christopher Wheeldon; stori dylwyth teg hudolus Frederick Ashton Cinderella; a thrasiedi ddramatig aruthrol Kenneth MacMillan, Romeo and Juliet. Bydd Ballet to Broadway Christopher Wheeldon yn gyfle arall i wylio amlochredd ac egni ein dawnswyr yn agos, ac ar gyfer y Nadolig mae gennym ddangosiad arbennig i ddathlu 40 mlynedd o The Nutcracker sy’n siŵr o blesio. Ni allwn aros i rannu’r eiliadau sinema hyn gyda chi.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Opera, Oliver Mears o’r Royal Opera:

“Efallai mai opera yw’r ffurf gelfyddydol fwyaf angerddol ac emosiynol, ac rwyf mor falch y bydd ein cynulleidfaoedd sinema yn gallu profi ein gwaith gyda ni, yn enwedig gyda thri darllediad opera byw. Gyda grŵp anhygoel o gast a phobl greadigol y tu ôl i bob sioe, mae’n mynd i fod yn wych.”

Mae’r tymor opera eisoes yn ei anterth ac ar ddydd Mawrth 22 Hydref gallwch weld Alice’s Adventures in Wonderland, a ddilynir gan Wolf Witch Giant Fairy sy’n gyfeillgar i deuluoedd ar ddydd Gwener 1 a dydd Sadwrn 2 Tachwedd. Gan fynd i mewn i Ragfyr, cewch eich rhyfeddu gan ddangosiad ysblennydd o Cinderella ar 10 Rhagfyr gyda ffefryn Nadolig pawb o The Nutcracker ar ddydd Sul 22 Rhagfyr.

Mae’r flwyddyn newydd yn gweld cynhyrchiad newydd wrth i’r cyfarwyddwr gwobrwyedig Olivier Damiano Michieletto ddychwelyd i’r Royal Opera ar gyfer The Tales of Hoffmann gan Offenbach. Juan Diego Flórez fydd yn canu rhan y bardd E.T.A Hoffmann ac Olga Pudova, Marina Costa-Jackson ac Ermonela Jaho yn canu rhannau ei driawd bythgofiadwy o gariadon. Wedi’i ffilmio’n fyw ar lwyfan ym mis Tachwedd 2024, bydd The Tales of Hoffmann yn cael ei dangos yn Theatr Torch ddydd Mawrth 21 Ionawr.

Mae Swan Lake yn mynd â ni i fis Chwefror tra bydd opera olaf Puccini, Turandot, yn cael ei darlledu’n fyw yn y Torch ar ddydd Mawrth 1 Ebrill. Gan dynnu ar draddodiad theatraidd Tsieineaidd ac Eidalaidd i ysgogi Peking chwedlonol llawn dychymyg, mae cynhyrchiad disglair Andrei Şerban yn un o’r rhai mwyaf trawiadol yn repertoire The Royal Opera. Rafael Payare sy'n arwain, Sondra Radvanovsky fydd yn canu'r brif ran.

Yn dilyn buddugoliaeth ddisglair Das Rheingold, mae Barrie Kosky yn treiddio’n ôl i fydysawd chwedlonol Wagner gydag ail randaliad cylch y Ring, Die Walküre. Gydag Antonio Pappano yn arwain o’r podiwm, bydd Christopher Maltman yn ail-greu rôl Wotan, ochr yn ochr ag Elisabet Strid (Brünnhilde), Lise Davidsen (Sieglinde), a Stanislas de Barbeyrac (Siegmund) ddydd Sul 18 Mai.

Ballet i Broadway – Wheeldon Works ar ddydd Mercher 28 Mai fydd yn dod â thymor opera 2024/25 Theatr Torch i ben.

I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk. Prynwch unrhyw bum teitl o dymor y Bale ac Opera Brenhinol neu MET Opera 24/25 a mynnwch y pumed teitl hanner pris.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.