TWIRLYWOOS

Bydd digon o ddireidi, cerddoriaeth a syrpreisys wrth i’r gwych Twirlywoos Live hwylio yn eu cwch mawr coch ac anelu am Theatr y Torch ar gyfer nid un, ond dau berfformiad ar ddydd Sul 7 Mai. Nid yw’r pedwar cymeriad bach tebyg i aderyn, sy'n chwilfrydig a brwdfrydig - Great BigHoo, Toodloo, Chickedy a Chick yn gallu aros i‘ch tywys chi, a’u ffrindiau ar daith wrth iddynt ddarganfod y byd hyfryd sydd o’n hamgylch!

Daw’r Twirlywoos doniol, hoffus yn fyw ar lwyfan gyda phypedwaith hynod ddyfeisgar sy’n addo awr o hwyl a chwerthin lliwgar i’r rhai un mlwydd oed a hŷn. Gan gynhyrchwyr The Very Hungry Caterpillar Show, mae’r Twirlywoos Live yn gyflwyniad hudolus i theatr i bob oed.

Mae’r sioe wedi’i datblygu gydag ymrwymiad i wylio sut mae plant yn rhyngweithio ac yn datblygu, ac mae pob pennod yn creu gofodau i blant cyn oed ysgol wneud eu cysylltiadau eu hunain, sy’n cynorthwyo eu dysgu.

“Mae Twirlywoos yn cydnabod gallu cyfoethog plant i ddysgu ac i wybod yn ifanc ac felly mae’r cynnwys yn adeiladu ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod am sut mae plant yn mynd ati i ddysgu yn y byd (ac amdano). Mae nodweddion allweddol yn cynnwys: chwilfrydedd, patrymau meddwl parhaus a phwysigrwydd symudiad, mae’r Twirlywoos bob amser yn symud – neu’n symud gwrthrychau – fel mae plant ifanc),” eglurodd yr Athro Cathy Nutbrown yr Ymgynghorydd Addysg wrth drafod y cynhyrchiad.

Ychwanegodd yr Athro Nutbrown: “Rydyn ni’n gwybod bod plant yn dysgu trwy hiwmor a phan fydd plant yn gweld pethau’n ddoniol maen nhw mewn sefyllfa i ddeall, felly mae’r hwyl yn Twirlywoos yn bwysig.”

Disgrifiwyd fel ‘antur hollti-bol, wedi’i plesio y rhai bach, yn sbri ar gyfer y teulu,’ gan Opening Night ac fel ‘ystod o liwiau llachar, cerddoriaeth, swigod, canu a gwisgoedd. Yn sioe swynol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc’ gan West End Wilma. Bydd pob aelod o’r teulu yn mwynhau’r cynhyrchiad hwn.

Bydd y Twirlywoos Live yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Sul 7 Mai am 2pm a 4pm. Tocynnau’n £14.00. Plant £12. Teulu: £45. Gellir prynu tocynnau oddi wrth y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk. 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.