Trolls Band Together Adolygiad gan Freya
Gyda’r ffilm Trolls Band Together yn cael ei dangos yn Theatr y Torch y mis yma, rydym wrth ein bodd i dderbyn yr adolygiad arbennig hwn gan Freya, ein hadolygydd ffilm newydd, sy’n ymddangos ei bod wedi cael amser trol-iffig yn y Torch!
“Mae Trolls Band Together, yn dechrau gydag ôl-fflachiau gan y cymeriad Branch sy’n cofio ei hen fywyd ac yna’n cael ei atal gan newyddion Poppy am briodas frenhinol. Yn union fel y dywed yr addunedau, mae Troll arall yn torri ar eu traws, ac mewn angen dirfawr am gymorth. Mae’r cyfeillion Branch, Poppy, Tiny Diamond a’u ffrind newydd yn mynd ar daith i helpu i achub un o hen drysorau Branch. Gyda rhwystrau ar hyd y ffordd, maent yn cael eu hunain yn fuan mewn lleoliad newydd lle maent yn credu y cedwir trysor coll Branch.
“Fe wnes i fwynhau'r ffilm hon yn fawr. Mae'n bleserus i unrhyw fath o berson. Es innau, mam a’r teulu i weld y ffilm ac fe wnaethon nhw ei mwynhau'n fawr hefyd. Roedd mam wedi dweud bod rhai o’r caneuon yn dod o fandiau bechgyn y 90au ac wei ei chludo yn ôl i’w dyddiau da. Roedd peth o'r stori'n teimlo ychydig yn ailadroddus ond mae'n wych gweld y Trolls yn cael eu hailuno â'u hen ffrindiau. Roeddwn i wir yn hoffi gweld y cymeriadau o'r ffilmiau Trolls hŷn yn ogystal â'r caneuon gwahanol sy'n cyd-fynd yn berffaith â phob un o'r golygfeydd gwahanol yn y ffilm. Roedd gan y ffilm hon eiliadau doniol ar gyfer yr oedolion yn y gynulleidfa hefyd.
“Cafodd y caneuon oll eu canu gydag angerdd gan roi egni arbennig i bob cymeriad a hwyl i'r gynulleidfa. Roedd y caneuon wir yn gwneud i chi deimlo eich bod chi yn y ffilm. Gwnaeth yr actorion anhygoel, roi bywyd eu hunain i bob cymeriad. Gwnaeth pawb ymdrech i wneud y gorau o’r ffilm hon, ac fe wnes i fwynhau pob rhan ohoni a gobeithio y gwnaeth eraill hefyd.
“Rwy’n argymell y ffilm hon i bawb. Mae’n hwyl i’r teulu ac yn ffilm dw i’n meddwl fyddai’n addas i bawb boed yn oedolion neu’n blant ifanc.”
GELLIR GWELD TROLLS BAND TOGETHER YN THEATR Y TORCH TAN DDYDD SUL 26 TACHWEDD 2023. PRIS: £7.50 | £7.00 CONS | £6.00 PLANT | £24.00 TEULU.
Mae Theatr y Torch wrth ei bodd yn croesawu ein hadolygdd sinema newydd, Freya. Mae'n 11 mlwydd oed ac yn byw yn Johnston.
Dywedodd Freya: "Rwy'n mwynhau gweld ffilmiau ac felly bydd y cyfle hwn yn rhoi'r cyfle i mi wneud rhywbeth rwy'n ei mwynhau. Edrychaf ymlaen i adolygu ffilmiau ar gyfer pobl sir Benfro."
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.