Tro Cyntaf i’r Artist Rosalyn Siân Evans yn y Torch
Mae Sir Benfro, ac yn arbennig, y môr yn hollbwysig ym mhaentiadau olew gwreiddiol Rosalyn Siân Evans a fydd yn cael eu harddangos yn Theatr Torch yn ystod mis Ebrill. Gelwir ei harddangosfa yn Enduring Landscapes: Nature and Emotion Abstracted a bydd yn cynnwys paentiadau sy’n ddi-amser ac yn ddigyfnewid.
Mae’r arddangosfa o dirluniau a phaentiadau môr o olygfannau gogledd Sir Benfro yn annwyl i’r artist ac yn dwyn i gof yr ymdeimlad o ‘Hiraeth.’ Maent wedi eu hysbrydoli gan flynyddoedd ei phlentyndod o dyfu i fyny ar fferm laeth Caerfai sydd wedi’i lleoli uwch ben clogwyni’r ardal ym Mhenrhyn Tyddewi. Mae’r cysylltiad hwn â thir a môr yn dylanwadu’n fawr ar ddarnau dramatig Rosalyn – egni’r tonnau, y tymhorau, a golau anhygoel Sir Benfro, sydd oll wedi ysbrydoli gwaith haniaethol trawiadol Rosalyn, gyda haenau o baent olew wedi’u hadeiladu’n araf ar gynfas i ddal harddwch helaeth y dirwedd arw.Gyda BA Anrhydedd mewn Celfyddyd Gain (Paentio) o Ysgol Gelf Margaret Street, Birmingham, nid oedd Rosalyn yn llwyr werthfawrogi harddwch Sir Benfro nes iddi fynd i’r coleg celf.
“Fel person ifanc yn tyfu i fyny ar y fferm a bod mewn cysylltiad â natur a’r môr yn yr ardal ac a oedd ond tafliad carreg oddi wrthym, doeddwn i ddim wir yn gwerthfawrogi’r harddwch nes i mi fynd i ffwrdd i astudio, ac yna fe wnes eu colli gymaint,” meddai Rosalyn sy’n gobeithio bod yn artist llawn amser.
Ac mae paentio yn bendant yn y gwaed. Mae gan Rosalyn bump o blant - Bronwen, Dafydd, Madeline, Beatrice a Samson, gyda Madeline newydd dderbyn ysgoloriaeth gelf ym Mryste.
Yr arddangosfa hon fydd arddangosfa gyntaf Rosalyn yn Theatr Torch. Er hynny, mae wedi arddangos ei gwaith yn flynyddol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ers 2011.
“Mae arddangos fy ngwaith yn Theatr Torch yn beth mawr iawn i mi ac rydw i mor gyffrous i gael trefnu'r digwyddiad hwn gyda nhw o'r diwedd. Rwyf wedi bod mor brysur yn bod yn fam i’m pum plentyn hyfryd a hefyd yn gweithio’n rhan amser gyda’n busnes teuluol, felly mae neilltuo fy amser i’m harddangosfa fy hun yn dod â llawer o bleser i mi,” meddai Rosalyn sy'n hoffi peintio gydag amrywiaeth o offer gan gynnwys brwshys, cyllyll palet, rholeri, a'i dwylo a'i thraed i greu dyfnder a drama yn ei darnau unigryw.
“Dydw i ddim yn arddangos fy mhaentiadau’n aml iawn ac mae ychydig yn frawychus, ond rydw i'n gyffrous iawn ar yr un pryd. Ers blynyddoedd rydw i wedi meddwl un diwrnod, un diwrnod, yna, heddiw mae'n digwydd, a phan gysylltais i â'r Torch, roedden nhw mor groesawgar. Rwy'n gobeithio y bydd y paentiadau rwy'n eu gwerthu yn cael eu caru cymaint yn eu cartrefi newydd ag yr wyf wedi eu caru wrth eu creu,” meddai Rosalyn â gwên fawr.
Mae modd gweld yr arddangosfa Enduring Landscapes: Nature and Emotion Abstracted yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch o 2 i 28 Ebrill.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.