Cynhyrchiad Theatr Ieuenctid Y Torch Yn Gweld Y Theatr Bron Yn Llawn
Daeth 700+ o bobl ynghyd yn Theatr Torch dros dair noson i weld cynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch o The Wind in the Willows. Wedi ei ddisgrifio fel “cynhyrchiad gwefreiddiol a hollol swynol,” gan Val Ruloff, un o adolygwyr cymunedol Theatr Torch, roedd y Theatr yn llawn gweithgarwch toadi-tastig.
Gyda gwisgoedd gwych, set a cherddoriaeth, cafodd pobl ifanc Sir Benfro gwmni aelodau Lleisiau’r Torch, sef côr cymunedol Theatr Torch. Fe wnaeth y cymeriadau poblogaidd bytholwyrdd - Badger, Ratty, Mole a Toad wneud i aelodau o’r gynlluedifa chwerthin a chrewyd atgofion hyfryd i bawb.
“Roedd hi’n toadi-tastig gweld 40 o bobl ifanc yr ardal ar y llwyfan gyda’i gilydd, yn cael hwyl ac yn dysgu’r grefft o actio. Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn ac wedi gwneud gwaith anhygoel. Mae bron i ddegawd ers i ni gael cymaint o bobl ifanc ar y llwyfan ar yr un pryd ac fe wnaeth The Wind in the Willows ganiatáu i ni wneud hynny.,” meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned y Torch.
Cafodd y cynhyrchiad argraff fawr ar Freya Barn, un o adolygwyr cymunedol ifanc Theatr Torch.
Dywedodd: “Dyma’r tro cyntaf i mi adolygu’r grŵp drama yma ac rydw i wedi fy syfrdanu’n barod. Mae'r ffordd y maent yn adrodd y stori hon yn wirioneddol ryfeddol. Cafwyd sioe wych gan yr actorion yn y ddrama hon. Roedd aelodau’r cast yn arbennig ac roedd gan bawb ran i’w chwarae, boed yn helpu gyda’r set neu’n dweud ychydig eiriau ar y llwyfan. Cafodd pawb gyfle i ddisgleirio.”
Bendithiwyd Theatr Torch hefyd â chwmni llyffant go iawn yn ei Swyddfa Docynnau drwy gydol y tridiau o’r cynhyrchiad, a roddwyd ar fenthyg yn garedig gan Dragon Reptiles ac Aquatics o Ddoc Penfro.
“Roedd Mr Toad ei hun yn atyniad go iawn, er ei fod yn eithaf swil ac yn mwynhau cuddio yn y fifariwm. Ond fe wnaeth sawl ymddangosiad a rhoddwyd taflen ffeithiau ddwyieithog i aelodau'r gynulleidfa fynd adref gyda nhw,” ychwanegodd Tim.
Mae tymor yr Hydref Theatr Ieuenctid y Torch yn dechrau ym mis Medi ac estynnir croeso cynnes i bob person ifanc rhwng wyth a 18 oed. Ewch i www.torchtheatre.co.uk am fwy o wybodaeth.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.