Aelodau Theatr Ieuenctid y Torch yn eich Gwahodd i Ravers!
Gwyliwch! Maen nhw’n ifanc, maen nhw’n lletchwith ac fel arfer maen nhw’n gyffrous am noson o Dungeons and Dragons neu glwb roboteg. Ond mae rhywbeth gwahanol yn digwydd. Mae’r Nyrds a’r Gîcs (Nîcs) yn trefnu Rêf yn Theatr Torch fis Mawrth yma mewn drama ysgafn newydd sbon o’r enw ‘Ravers’ sy’n gwahodd ei chynulleidfa i ystyried y byd trwy lygaid pobl ifanc, lletchwith.
Mae Ravers gan Theatr Ieuenctid y Torch yn rhan o raglen National Theatre Connections. Mae’r aelodau wedi bod yn gweithio’n galed ar y cynhyrchiad ers mis Medi cyn camu ar lwyfan Theatr Torch ym mis Mawrth cyn i’r cynhyrchiad ymweld â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Ebrill.
Ond beth yw testun y ddrama? Dywedodd un o’r bobl ifanc 16 oed: “Mae’n ymwneud â’r genhedlaeth bresennol am y rheiny nad ydynt yn teimlo’n rhan o gymdeithas o’r enw ‘Nîcs’ sy’n trefnu rêf i ddod o hyd i undod a chysur o fod yn nhw eu hunain a gobeithio darganfod ffrindiau newydd.”
Mae plot y ddrama yn dilyn Ali sy’n benderfynol o gyflwyno’r rêf eithaf i bobl o’r tu allan yn gymdeithasol a wynebu’r byd yn ei arddegau go iawn. Mae hyn yn mynd i fod yn her oherwydd dydyn nhw erioed wedi bod i rêf o'r blaen. Dyma fydd eu rêf – fydd na ddim cyffuriau, byddan nhw ddim yn yfed ac yn gweud dim byd mwy na dal dwylo, ond beth yw rêf hebddyn nhw? Mae'r Nyrds a'r Gîcs eisoes yn cael eu gwrthod gan gymdeithas, beth os yw cael rêf sych y tu allan yng nghanol yr hydref ond yn ei wneud yn waeth? Peidiwch byth â meddwl hynny, eu syniad nhw yw hyn, ac maen nhw'n mynd i wneud iddo ddigwydd "gan fod bod yn nîcs gyda’i gilydd, gyda neu heb gerddoriaeth" yn gwneud iddyn nhw gael eu derbyn ... ocê?
Mae’r bobl ifanc yn gyffrous i gael gweithio ar y ddrama: “Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cael cyfle i weithio gyda’r Theatr Genedlaethol a pherfformio drama gyda hi,” meddai un cyfranogwr 15 oed.
“Mae Theatr Ieuenctid y Torch wrth ei bodd yn gweithio gyda rhaglen National Theatre Connections eto eleni. Gwyddom ei fod yn rhoi cyfle gwych i’n pobl ifanc weithio ar ddrama newydd sbon sydd wedi ei hysgrifennu’n arbennig ar gyfer eu grŵp oedran.” meddai Tim Howe, cyfarwyddwr y cynhyrchiad.
Mae'r dramodydd Rikki Beadle-Blair, MBE, yn awdur, cyfarwyddwr, cyfansoddwr, coreograffydd, dylunydd, cynhyrchydd a pherfformiwr sy'n gweithio ym myd ffilm, theatr, teledu a radio. Ar ôl ysgrifennu a chyfarwyddo dros 40 o ddramâu dros yr 20 mlynedd diwethaf ynghyd â sawl ffilm nodwedd, ffilmiau byr a phenodau a chyfresi teledu, mae Ravers yn sicr yn gynhyrchiad na ddylid ei golli.
Mae pobl ifanc Sir Benfro sy’n cymryd rhan yn Ravers wedi cael cymaint o hwyl dros y misoedd diwethaf dan ofal ac arweiniad Tim Howe – Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned fel rhan o’r Theatr Ieuenctid.
Felly sut beth fu'r ymarferion i'r 14 aelod o'r cast?
“Wel sŵn mawr ond sŵn da, yn bleserus ac yn llawn mynegiant ac mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud bob amser yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni fel aelodau eisiau ei wneud,” oedd ymateb un person ifanc. Ychwanegodd un arall: “Dydy’r sesiynau byth yr un peth ac maen nhw bob amser yn ein cyflwyno i sgiliau newydd i’n helpu ni yn y diwydiant celfyddydau perfformio tra’n fod yn lle cysurus i ni chwerthin a dod i adnabod ein gilydd.”
Gan ddod i glo, meddai Tim: “Mae’r rhaglen Connections yn dathlu talent newydd y rheiny rhwng 13 a 18 oed ledled y DU. Rydym yn gyffrous i fod yn perfformio drama Rikki Beadle-Blair sy’n argoeli i fod yn noson bop-tastig llawn hwyl yn y theatr.”
Mae aelodau Theatr Ieuenctid y Torch yn cyflwyno Ravers fel rhan o raglen National Theatre Connections o ddydd Iau 6 Mawrth tan ddydd Sadwrn 8 Mawrth am 7.30pm. Tocynnau: £10 llawn / £8 gostyngiadau. Rhybuddion Cynnwys: Darlun o yfed dan oed, Iaith gymedrol, themâu sy’n codi pryder a chyfeiriadau at golli rhiant.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.