THEATR IEUENCTID Y TORCH YN PARATOI AR GYFER CYFRES YR HYDREF
Mae Theatr y Torch yn Aberdaugleddau yn ymfalchïo mewn meithrin talent newydd a’i Theatr Ieuenctid, i nifer, yw lle mae hud y theatre oll yn dechrau. Mae’r Theatr Ieuenctid (YT) yn rhaglen ar gyfer pobl ifanc rhwng saith a 18 oed sy’n eu helpu i ddeall beth yw bod yn wneuthurwr theatr ac mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd.
Bob wythnos, mae’r bobl ifanc yn cael eu hannog i fagu hyder trwy sesiynau meithrin sgiliau creadigol a deniadol, dan arweiniad tîm ymroddedig Theatr y Torch. Nid yw'r sesiynau hyn yn ymwneud ag actio a theatr yn unig; mae'r bobl ifanc hefyd yn dysgu am sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a gwaith tîm. Yn bwysicaf oll, maen nhw'n cael hwyl ac yn gwneud ffrindiau newydd.
Eleni bydd y cyfranogwyr theatr ieuenctid yn cymryd rhan mewn dwy raglen genedlaethol. Bydd y plant saith i 11 oed yn gweithio ar ddwy ddrama newydd wych a gomisiynwyd fel rhan o Positive Stories for Difficult Times ar y cyd â Wonder Fools, Traverse a Youth Theatre Arts Scotland. Tra bydd pobl ifanc 15-18 oed yn cymryd rhan yn y rhaglen National Theatre Connections ar draws y DU.
Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn gweithredu ar saith egwyddor allweddol fel yr eglura Tim Howe, Uwch Reolwr: Ieuenctid a Chymuned:
“Yma yn y Torch, rydym yn darparu cysylltiad rheolaidd i bobl ifanc gyda’u cyfoedion, rydym yn annog datblygiad dychymyg pobl ifanc, rydym yn hyrwyddo gweithgaredd creadigol, corfforol ac addysgol yn ogystal â chynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd. Yn ogystal â’r rhain rydym hefyd yn cefnogi datblygu dulliau ar gyfer meddwl yn feirniadol, rydym yn darparu lle i bobl ifanc ddeall y byd o’n cwmpas ac yn olaf, ac yn bwysicaf oll, rydym yn galluogi pobl ifanc i ddeall eu hunain.”
Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn ofod croesawgar i bawb, waeth beth fo’u datblygiad a’u gallu, a chefnogir ei Rhaglen Ieuenctid a Chymunedol ar gyfer yr Hydref gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ac Ymddiriedolaeth Ingles.
Ychwanegodd Tim: “Rydym yn ymwybodol bod pob person ifanc yn datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac nid yw gallu bob amser yn gysylltiedig ag oedran. Ein nod yw gwneud addasiadau rhesymol i'n darpariaeth i sicrhau bod pob grŵp yn darparu'r hyn sydd orau i bawb, fel y gall ein pobl ifanc wneud y gorau o'u profiadau.
“Rydym yn ceisio cynnwys pobl ifanc mewn mannau diogel creadigol sy'n caniatáu iddynt fynegi eu hunain; i ddatrys beth sy'n bwysig iddyn nhw, beth sy’n angerddol iddynt, a sut i ddweud wrth bawb am hynny. Rydyn ni’n credu bod gan y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw y pŵer i greu eu straeon eu hunain, a newid sut rydyn ni’n gweld ein byd,” meddai Tim.
Mae tymor yr hydref yn dechrau 18 Medi gyda sesiynau’n cael eu cynnal ar y diwrnodau canlynol yn ystod y tymor:
Grŵp 1: Blynyddoedd ysgol 3 a 4 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 4:00pm i 5:30pm
Grŵp 2: Blynyddoedd ysgol 5 a 6 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER 4:30pm i 6:00pm
Grŵp 3: Blynyddoedd ysgol 7, 8, a 9 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 6.30pm i 8:00pm
Grŵp 4: Blynyddoedd ysgol 10, 11, 12 a 13 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER 7:30pm i 9:30pm
Cynhelir hefyd sesiwn Theatr Ieuenctid yn wythnosol yn ystod y tymor, ond nid oes pwysau i fynychu pob un o’r rhain.
Os yw hyn yn apelio atoch chi neu bod gan eich person ifanc ddiddordeb mewn bod yn rhan ohono, cysylltwch â thîm swyddfa docynnau Theatr y Torch ar 01646 694192 a byddant yn hapus i gadw eich lle ar gyfer eich sesiwn flasu.
Am fwy o wybodaeth, ac i ddechrau ar eich taith greadigol, cysylltwch ag Uwch Reolwr Theatr y Torch: Ieuenctid a Chymuned, Tim Howe –tim@torchtheatre.co.uk neu 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.