THEATR IEUENCTID Y TORCH - HYDREF 22

Mae amserau cyffrous o flaen aelodau Theatr Ieuenctid y Torch y tymor hwn ac wrth symud i'r flwyddyn newydd. Rydym wrth ein bodd i fod wedi dathlu’r ymarferydd lleol, Angharad Sanders sy’n arwain y Theatr Ieuenctid y tymor hwn, sy’n gweithio gyda’n Cyfarwyddwr Artistig presennol, Chelsey Gillard a wneth ymuno â ni ar ddechrau mis Hydref.

Mae aelodau Theatr Ieuenctid ar fin elwa o'n harlwy traddodiadol i bobl ifanc yn ogystal ag elfennau newydd i'r rhaglen a fydd yn cynnwys:

  • Mwy o amser llwyfan a rhyngweithio ag aelodau cast ar gynyrchiadau Torch
  • Dosbarthiadau meistr ymarferwyr gwadd
  • Mwy o rannu gwaith gyda rhieni a gwarcheidwaid
  • Mwy o gyfle i weithio gydag arbenigwyr diwydiant yn y theatr

Meddai Angharad:

“Rydym eisoes i mewn i’r tymor ac wedi bod yn gweithio ar fagu hyder, gwneud gemau drama a chreu delweddau trwy ymarferion. Mae ein gwaith sgript hyd yn hyn wedi cynnwys Matilda, The Twits ac Under Milk Wood. Rydym ar fin dechrau gweithio ar ein digwyddiad Theatr Torch nesaf ar gyfer Calan Gaeaf – arddangosfa arswydus o weithgaredd brawychus! Ychydig o lefydd cyfyngedig sydd ar ôl ar gyfer y tymor hwn. Os oes unrhyw un yn dymuno ymuno â ni – cysylltwch â ni; rydyn ni'n cael cymaint o hwyl!”

Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn ymgynghori ag aelodau Theatr Ieuenctid a rhieni a gwarcheidwaid am ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y Theatr Ieuenctid yn y flwyddyn newydd. Yr adeg honno, byddwn yn lansio rhaglen eang o weithgareddau. 

Am fwy o wybodaeth am Theatr Ieuenctid y Torch, anfonwch e-bost education@torchtheatre.co.uk

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.