GOLAU, CAMERA, EWCH AMDANI! BYDD THEATR IEUENCTID Y TORCH YN DYCHWELYD YN IONAWR 2022 GYDA DYDDIADAU AR GYFER Y TYMOR NEWYDD A PHROSIECT NEWYDD CYFFROUS GYDAG AMGUEDDFA ABERDAUGLEDDAU
Ers yr 2il o Dachwedd, mae sêr llwyfan y dyfodol wedi bod yn mwynhau tymor llawn hwyl wedi iddynt ddychwelyd i Theatr Ieuenctid y Torch! Gyda dosbarthiadau arbennig, teithiau y tu ôl i'r llenni, a chip olygon ar bantomeim y Nadolig, mae tipyn wedi bod yn digwydd.
Dywedodd arweinydd Theatr Ieuenctid Torch, Chloe Wheeler, “Mae ein tymor cyntaf yn ôl yn Theatr y Torch wedi hedfan heibio ac rydym wedi cael amser gwych yn archwilio Shakespeare, Pantomeim, Theatr Gerdd a hyd yn oed ychydig o Murder Mystery!
Y tymor nesaf, mae'n bleser gen i gyhoeddi y byddwn ni'n gweithio gydag Amgueddfa Aberdaugleddau ar brosiect a fydd yn edrych ar farn ein pobl ifanc gyda dyfodol yr amgueddfa mewn golwg. Bydd cyfle i bob grŵp ymweld â'r amgueddfa a gwneud rhywfaint o ffilmio ar leoliad, a'r cyfan oll yn gyffrous iawn. ”
Bydd y tymor newydd yn dechrau ar ddydd Mawrth 18 Ionawr, a bydd yn rhedeg am 10 wythnos, ar gost o £50 y plentyn waeth beth fo'i oedran. Mae'r dosbarthiadau, sy'n cwrdd yn wythnosol, ar nos Fawrth yn Theatr y Torch yn cael eu trefnu yn ôl blynyddoedd ysgol. Byddant yn rhedeg fel a ganlyn:
Theatr Ieuenctid Iau
Blynyddoedd Ysgol 3 & 4 - 4pm - 5:15pm
Blynyddoedd Ysgol 5 & 6 - 5:30pm - 6:45pm
Theatr Ieuenctid Hŷn
Blynyddoedd Ysgol 7, 8 & 9 - 7:00pm - 8:15pm
Blynyddoedd Ysgol 10, 11, 12 & 13 - 8:15pm - 9:30pm
Mae gan Theatr Ieuenctid y Torch hanes cyfoethog o gefnogi a meithrin talent leol. Ymhlith yr aelodau blaenorol mae Connie Fisher (The Sound of Music), Dr Sita Thomas (Milkshake), Yasemin Özdemir a serennodd yn ddiweddar yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr y Torch o Angel, a Samuel Freeman sydd ar hyn o bryd yn serennu fel Cinderella yn Theatr y Torch sy'n agor i y cyhoedd ar Ragfyr 16eg.
Parhaodd Chloe, “Yn Theatr Ieuenctid Torch, rydym yn falch o gynnig dull mwy hamddenol. I ystod enfawr o bobl ifanc, ni waeth beth yw eu profiad neu eu cefndir.
Rydym yn ymwybodol nad yw ein holl aelodau ar y llwyfan, mae aelodau blaenorol wedi mynd ymlaen i ddefnyddio'r sgiliau maen nhw wedi'u dysgu mewn theatr ieuenctid trwy ddod yn feddygon, athrawon, artistiaid colur, diddanwyr ar longau, artistiaid, hyd yn oed rhieni.
Roedd yn bleser pur gwylio ein cyn-fyfyrwyr Yasemin, yn serennu yn y sioe un fenyw Angel wnaeth ailagor y llwyfan yn y Torch ar ôl iddi gau a hynny i Theatr wnaeth werthu pob tocyn. Rydym yn falch iawn ohoni! Ein cyflawniad mwyaf bob amser yw gweld ein haelodau'n tyfu mewn hyder ac ysbryd, ac i fynd â'r sgiliau maen nhw'n eu dysgu gyda nhw, i'w bywydau beunyddiol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu wynebau newydd i'n dosbarthiadau ac ni allwn aros am y tymor newydd! ”
Mae archebion ar gyfer tymor Gwanwyn 2022 Theatre Ieuenctid y Torch nawr ar agor. Mae lleoedd yn gyfyngedig, am wybodaeth ac i archebu, e-bostiwch Chloe at education@torchtheatre.co.uk
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.