THEATR Y TORCH YN LANSIO PROSIECT CYMUNEDOL UCHELGEISIOL SIR BENFRO GYFAN I DDAL EICH STORIÂU NAS DDYWEDWYD O’R BLAEN

Theatr y Torch yn lansio prosiect cymunedol uchelgeisiol Sir Benfro gyfan i ddal eich storiâu nas ddywedwyd o’r blaen

Gan ystyried bod yr wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau, mae’n ymddangos yn addas bod Theatr y Torch yn Aberdaugleddau yn lansio ‘Stori Sir Benfro’, sef prosiect cymunedol newydd cyffrous sydd â’r nod o gysylltu pobl ar draws cenedlaethau wrth ddathlu ysbryd y Sir.

Rydym oll yn hoff o stori dda, ond maent wir yn dda os ydynt yn taflu golau ar yr ardal yr ydym yn byw ynddi. Ceisia Stori Sir Benfro ddod ag artistiaid a’r gymuned at ei gilydd trwy fapio’r sir fesul storiâu bob dydd a ddywedir gan y bobl sy’n byw yma. Gall stori fod mor syml â sut mae bywyd wedi newid dros y blynyddoedd neu gallai fod yn ddigwyddiad arbennig yr hoffech i bobl ei gofio. Yn aml iawn, caiff y storiâu yma barhau i fod yn chwedlau o fewn ein teuluoedd ein hunain, ond mae hwn yn gyfle i’w rhannu hwy gyda’r byd. Mae gan bawb eu stori i’w hadrodd a bydd y prosiect hwn yn hwyluso’r storiâu yma i’w recordio a’u cofio am genedlaethau i ddod.

Deilliodd yr ysbrydoliaeth y tu cefn i'r prosiect hwn gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Peter Doran, a oedd, wrth ofalu am ei dad a oedd yn dioddef gyda Covid-19 ar ddechrau'r pandemig yn 2020, wedi annog ei dad i ymhelaethu ar ei storiâu. Yn y gorffennol, dim ond cyffwrdd ar y storiâu yma wrth basio y byddai’r ddau.

Meddai Peter: "Dywedodd fy nhad wrthym am ei amser fel faciwî, ar ôl cael ei anfon o'i gartref yn Lerpwl i bentref siarad Cymraeg Llanberis yng Ngogledd Cymru. Roedd yn stori hynod ddiddorol ac yn un na fyddem efallai erioed wedi clywed amdani oni bai am Covid-19. Rydym oll mor brysur, dwi'n teimlo nad ydyn ni'n treulio digon o amser gyda'n gilydd i ganiatáu i'r eiliadau hyfryd hyn ddigwydd. Mae’n ymddangos ein bod oll yn rhy brysur i roi amser i wrando.”

Diolch byth, mae tad Peter wedi mynd ymlaen i wella'n llwyr o Covid-19 ac mae'n parhau i adrodd nifer fwy o storiâu.

Mae Stori Sir Benfro yn cael ei harwain gan James Williams, gŵr creadigol o Ddinbych-y-pysgod, sydd wedi casglu tîm o artistiaid llawrydd ynghyd i ddal straeon rhyfeddol mewn gwahanol gyfryngau o bob rhan o'r sir. Dim ond rhan o'r prosiect yw'r straeon hyn ac mae Theatr y Torch yn gofyn am eich help chi i ddal eich storiâu a adroddir ar draws y cenedlaethau.

Ychwanegodd James: "Mae artistiaid lleol eisoes wedi bod yn gweithio ar gasglu storiâu o ar draws y sir, a nawr hoffwn ofyn i chi ymuno. Rydyn ni'n galw am fideos a wneir gan bobl ifanc lle maen nhw'n cyfweld â'u neiniau a teidiau neu berthnasau hŷn am eu profiadau a'u straeon yn Sir Benfro. Caiff y fideos hyn eu hychwanegu at Archif Fyw ar-lein a fydd ar gael i unrhyw un eu gweld a’u clywed."

Caiff yr holl storiâu a gyflwynir eu hychwanegu i’r Archif Fyw ar wefan Stori Sir Benfro a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill. Gall fideos cael eu gwneud dros deleffon neu eu recordio o alwad llwyfan digidol (wedi'i ffilmio'n ddelfrydol mewn tirwedd), gallant fod yn Saesneg neu Gymraeg ond nid oes modd iddynt fod yn fwy na 5 munud o hyd.

Os fyddai gwell gennych peidio â ffilmio eich cyflwyniad, fe fyddwn yn ddigon hapus i dderbyn eich stori fel recordiad clywedol (ffurf mp3) neu yn ysgrifenedig, gyda ffotograff.

Am fwy o wybodaeth ewch I https://www.torchtheatre.co.uk/the-pembrokeshire-story/

Os hoffech gyflwyno stori, cysylltwch gyda James Williams fesul yr e-bost hwn marketing@torchtheatre.co.uk

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.