DIGWYDDIAD CYFNEWID DILLAD YN DYCHWELYD I’R TORCH!
Wedi cael llond bol ar eich fflip-fflops? Wedi blino ar eich top, amser i’w gyfnewid? Does dim angen edrych ymhellach na'r digwyddiad Cyfnewid Dillad yn Theatr y Torch fis Gorffennaf eleni. Yn dilyn ymlaen o ddau ddiwrnod cyfnewid dillad llwyddiannus iawn ym mis Ebrill a mis Mai, mae Theatr y Torch yn falch o fod yn cynnig digwyddiad arall o’r fath ddydd Sul 23 Gorffennaf am 2pm.
Ac i'r rhai ohonoch nad ydych mor siŵr beth mae digwyddiad Cyfnewid Dillad yn ei olygu mewn gwirionedd, mae'n ddigwyddiad sy'n agored i bawb lle gall pobl gyfnewid eu heitemau glân o ddillad am rai dillad ail-law eraill er mwyn hyrwyddo defnydd cynaliadwy, ac fe fydd gwneud hynny yn costio dim i chi!
Ar ôl ymddangos am y tro cyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan nad oedd pobl yn gallu fforddio prynu dillad newydd, mae digwyddiadau Cyfnewid Dillad wedi dod yn fwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf ar draws y byd, ac nid yw Aberdaugleddau yn eithriad.
“Mae ein digwyddiadau Cyfnewid Dillad wedi bod mor boblogaidd hyd yn hyn fel ein bod wedi penderfynu cyflwyno’r digwyddiadau bob deufis yn ein Horiel Joanna Field wych yma yn Theatr y Torch. Mae’r digwyddiadau hyn i bawb eu mwynhau ac i helpu’n planed,” meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned.
Ychwanegodd Tim: “Gall Cyfnewid Dillad Cymunedol fel y rhain annog cymdeithasu a meithrin perthnasoedd gan ddod â phobl Sir Benfro at ei gilydd o dan yr un to a lle gwell i’w gynnal nag yn Theatr y Torch sydd mor groesawgar. Felly dewch i bori ein dillad a gweld pa ddanteithion eraill sydd gennym ar gael. Efallai diod o’ch dewis o’n ciosg neu weld beth sydd ymlaen yn ein sinema – gwnewch brynhawn ohoni!”
Mae Theatr y Torch yn elusen gofrestredig ac fel sefydliad di-elw, mae’n dibynnu ar gefnogaeth hael rhoddwyr i barhau i ddarparu ar gyfer ein cymuned gyda digwyddiadau megis y cyfnewid dillad hwn. Os oes gennych ddiddordeb i’n cefnogi, ymwelwch â’n gwefan torchtheatre.co.uk neu ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 01646 695267.
Bydd Theatr y Torch yn derbyn dillad, esgidiau ac ategolion plant ac oedolion nad ydynt eu hangen bellach, a chyhyd â’ch bod yn dod â rhywbeth gyda chi gallwch ei gyfnewid am rywbeth arall. Felly galwch heibio ar 23 Gorffennaf!
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.