YSGOL HAF THEATR IEUENCTID Y TORCH

Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn gyffrous i gyhoeddi ei bod eleni wedi cynnig nifer o lefydd am ddim i blant yn y gymuned leol fel y gallan nhw ymuno â ni yn Ysgolion Haf ein Theatr Ieuenctid. Mae'r llefydd hyn wedi'u dosbarthu trwy Elusennau lleol; PATCH, Action for Children, Megan’s Starr a Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro i roi cyfle i blant gael mynediad i’r celfyddydau, o bosibl am y tro cyntaf. Mae hyn oherwydd haelioni anhygoel y busnesau yma yn Sir Benfro sy’n awyddus i gefnogi teuluoedd lleol yn y cyfnod hwn o her ariannol a chefnogi’r Torch, wrth i ni wella ar ôl effaith y pandemig. 

Un o’r 17 cwmni sy’n noddi yw Pembrokeshire Building & Plumbing Supplies Ltd: 

“Mae nifer ohonom, ac yn enwedig teuluoedd, yn teimlo’r pwysau ar hyn o bryd ac rydym yn falch o helpu drwy noddi lle plentyn yn yr ysgol haf.” Brian Taylor, Rheolwr Gyfarwyddwr.

Eleni mae’r Ysgol Haf yn cael ei chyfarwyddo gan recriwt diweddaraf Theatr y Torch, Chelsey Gillard sy’n cymryd rôl Cyfarwyddwr Artistig yn swyddogol ym mis Hydref pan fydd Peter Doran yn ymddeol ar ôl 25 mlynedd. Dilynir y pythefnos o ysgol haf ddrama (wythnos yr iau ac yna wythnos y rhai hŷn) gan ein hwythnos theatr gerdd pan fydd y cyfarwyddwr cerdd a’r hyfforddwraig llais, Angharad Sanders a’r ymarferydd drama o Sir Benfro, Lucie O’Neill yn gweithio gyda’r plant i greu’r sioe gerdd Legally Blonde Junior mewn wythnos! Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu gwahodd i berfformiad rhanedig ar y diwrnod olaf, yn rhad ac am ddim. 

Wrth drafod yr Ysgol Haf eleni, dywedodd Chelsey Gillard:

“Rwyf mor gyffrous i fod yn treulio pythefnos gyda Theatr Ieuenctid y Torch ac rwyf mor ddiolchgar am haelioni enfawr pobl a busnesau lleol a fydd yn caniatáu i gynifer o bobl ifanc gael mynediad i’r ysgolion haf na fyddent yn cael y cyfle fel arall o bosibl. Gyda’r grŵp iau byddwn yn cymryd ysbrydoliaeth o chwedloniaeth Cymru i greu ein stori antur llawn cyffro. Bydd yr ysgol hŷn yn ymchwilio i beth sy'n gwneud ymennydd yr arddegwyr mor wahanol? Bydd y ddwy wythnos yn llawn gemau a gweithgareddau hwyliog a fydd yn magu hyder, gwaith tîm a chyfathrebu sgiliau mewn amgylchedd cynnes a chynhwysol."

 Actor proffesiynol yw Samuel Freeman. Cafodd ei brofiad cyntaf o ddrama pan yr oedd yn ifanc fel aelod o Theatr Ieuenctid y Torch. Bydd Samuel yn dychwelyd i’r Torch i ymddangos yn ein cynhyrchiad hydref o ‘Of Mice and Men’ a’r panto eleni, Sleeping Beauty:

“Yn ogystal â rhoi cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau actio, roedd Theatr Ieuenctid y Torch yn amgylchedd cymdeithasol, proffesiynol ac yn bennaf oll yn un hynod hwyliog. Rhai o fy atgofion gorau fel oedolyn ifanc oedd yr hafau hynny!”

Yn ôl Benjamin Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol y Torch, mae e’n hynod werthfawrogol am y nawdd a dderbyniwyd gan fusnesau lleol:

“Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb a gawsom gan unigolion a busnesau lleol i’n cais am gymorth i wneud y Celfyddydau yn hygyrch i’n pobl ifanc. Yn ogystal â chynnig ein lleoedd rheolaidd â chymhorthdal, rydym bellach yn gallu cael gwared ar rwystrau economaidd a chynnig lleoedd i blant na fyddent o bosibl yn gallu manteisio ar y cyfle gwych hwn fel arall i gymryd rhan, dysgu sgiliau bywyd newydd, a gwneud ffrindiau newydd wrth gael llawer o hwyl a hynny mewn lleoliad diogel, cynhwysol ac arobryn yn unig theatr gynhyrchu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rydym yn gweithio gydag elusennau lleol i adnabod teuluoedd a fydd yn elwa fwyaf o’r lleoedd ac rydym yn gyffrous i groesawu holl gyfranogwyr yr Ysgol Haf i’r theatr.”

Am wybodaeth am Ysgolion Haf y Theatr Ieuenctid ewch i Ysgolion Haf neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.  

Diolch mawr iawn i’r busnesau lleol a’r unigolion canlynol sydd wedi noddi llefydd i blant yn yr Ysgol Haf:

Capital Roasters
Castle Hot Tubs
Dr Sita Thomas
Forrest Print
Image by Vanessa
LBS Building Merchants
Media To Motion
NexMedia
Pembrokeshire Building & Plumbing Supplies
Pembrokeshire Chilli Farm
Sam Freeman
TaylorMade Communications
The Beyond Partnership
Torado's Hairdressing
Upton Farm Frozen Foods
West Wales Holiday Cottages
GD Harries & Sons Ltd

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.