Y TORCH YN MYND YN WYRDD GYDA DIGWYDDIAD CYFNEWID DILLAD

Yn dilyn digwyddiad cyfnewid dillad hynod lwyddiannus a oedd yn cyd-fynd â dangosiad y rhaglen ddogfen Fashion Reimagined, mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau wedi penderfynu cynnal digwyddiad cyfnewid dillad arall. Cynhelir y digwyddiad hwn ar ddydd Sadwrn 20 Mai a chaiff y digwyddiadau hyn eu cynnal bob deufis o hyn ymlaen.

Bydd digwyddiad mis Mai yn cyd-fynd â’r ffilm Joyland, lle mae’r mab ieuengaf mewn teulu Pacistanaidd traddodiadol yn cael swydd fel dawnsiwr wrth gefn mewn bwrlesg yn arddull Bollywood. Mae'n gwirioni ar y fenyw draws sy'n rhedeg y sioe.

Roedd poblogrwydd y digwyddiad cyfnewid dillad diwethaf a gynhaliwyd yn Oriel Joanna Field wedi'i amgylchynu gan waith celf gwych wedi synnu Theatr y Torch. Ond fel yr eglura Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned, gwneud y Torch yn gynhwysol ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd yw'r nod.

“Mae gennym gyfrifoldeb i’n planed a chawsom ein syfrdanu yma yn y Torch gan yr ymateb cynnes i’n digwyddiad cyfnewid dillad cyntaf a chydnabod haelioni ein cymuned. Rydym yn argymell eich bod yn gweld rhai o’r ffilmiau gwych sy’n digwydd cyn ac ar ôl ein digwyddiad cyfnewid dillad ond nid oes unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny.”

Mae Theatr y Torch yn derbyn dillad, esgidiau a chyfwisgoedd y mae plant ac oedolion yn eu caru, a chyhyd â’ch bod yn dod â rhywbeth gyda chi gallwch ei gyfnewid am rywbeth arall.

“Anhygoel oedd croesawu cymaint o bobl i’n hadeilad ar gyfer y cyfnewid dillad diwethaf! Roedd y Torch yn fwrlwm o bobl yn edrych i wneud newid i’w cwpwrdd dillad, yn mwynhau diod boeth a chacen o’n ciosg, neu’n sgwrsio gydag un o aelodau o’n tîm,” esboniodd Tim sy’n wyneb newydd yn y Torch, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard.

Gorffennodd Tim: “Roedd yn foment arbennig iawn i Chelsey a minnau. Rydym bob amser yn edrych ar gyfleoedd i gynnal mwy o ddigwyddiadau amgylcheddol cymunedol wrth i ni geisio dod yn lleoliad gwyrddach. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i leihau ein heffaith ar y blaned; rydyn ni wedi newid y ffordd rydyn ni’n defnyddio ynni yn ein hadeilad, yn ogystal â bod yn fwy cyfrifol gyda’r ffordd rydyn ni’n defnyddio (ac yn ailddefnyddio) ein setiau a’n gwisgoedd, felly roedd cyfnewid dillad yn ymddangos fel y cam gwych nesaf. Rydym hefyd yn ymwybodol bod pawb yn fwy ymwybodol o gost ar hyn o bryd ac yn ceisio gwneud arbedion lle y bod modd. Rydyn ni'n gwybod bod ein cyfnewidiadau dillad nid yn unig yn wych ar gyfer y blaned, ond mae nhw hefyd yn wych i'ch poced hefyd!”

Mae croeso cynnes i bawb fynychu’r sesiwn Cyfnewid Dillad nesaf ar ddydd   Sadwrn 20fed Mai am 5.30pm cyn dangosiad o Joyland am 7.30pm (addas i bobl ifanc dros 15 oed). Bydd digwyddiad mis Gorffennaf ar ddydd Sul 23ain am 2pm.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.