TIC TOC .... SGWRS FACH 'DA GILLIAN ELISA

Mae Theatr y Torch wrth ei bodd yn croesawu sêr Cymru i’w llwyfan ganol mis Mawrth wrth i’r sioe gerdd ddwyieithog Tic Toc gan Parama2 ddod i Sir Benfro. Bydd Tic Toc yn ymweld â’r Torch ar nos Iau 23 Mawrth am 7.30pm. Anfonwyd ein gohebydd Anwen Francis i gyfweld ag un o’r prif gymeriadau – Gillian Elisa, sy’n adnabyddus am ei hymddangosiadau teledu a llwyfan – o’i rolau yn Gavin and Stacey a Pobol y Cwm i enwi dim ond y rhai.

Pa gymeriad fyddwch chi'n chwarae yn Tic Toc? Soniwch ychydig am y cymeriad.
Dw i'n chware cymeriad o'r enw Ann Davies sydd yn flaenllaw yn y ddrama, ac yn mynnu sylw. Mae hi'n weithgar iawn ac yn trefnu aduniad gyda 'i ffrindiau yn y ffatri. Ond dydy hi ddim ishe ei ffrind gore hi i ddod i'r aduniad. Pam? Bydd hyn yn cael ei ddatgelu yn y ddrama.

Ydych chi'n mwynhau chwarae'r cymeriad a beth yw'r heriau?
Dw i wrth fy modd yn chware rhan Ann oherwydd ma hi'n gymeriad cig a gwaed gyda hiwmor a thristwch yn gymysg gyda’i gilydd. Felly ma hi'n mynd drwy pob emosiwn!

Esboniwch yn gryno beth yw cynnwys y ddrama?
Sioe gerdd yw hi yn cynnwys grŵp o fenywod sy'n gweithio mewn ffatri. Me nhw’n ffrindie penna', ac wedi gweithio da'i gilydd yn y ffatri yma ers oesoedd. Hyd yn oed yn cymdeithasu da'i gilydd ac yn ymddiried yn ei gilydd, ac yn dibynnu ar ei gilydd am gefnogaeth ym mhopeth yn eu bywydau. Ma nhw'n agos iawn! Fel teulu.

Mewn tri gair, disgrifiwch y ddrama.
Doniol, cynhyrfus a phwerus.

Pa rhan o'r ddrama yw eich ffefryn a pham?
Pan i ni gyd yn dod at ein gilydd i ganu .. ma na undod ymhob cân.

A oes gan y ddrama neges? Os oes, beth yw hi?
Cyfeillgarwch, goddefgarwch a gobaith.

Beth sydd well gennych a pham? Bod ar lwyfan neu ar y bocs?
Y ddau mond bod y sgript yn wych!

O ran gyrfa, beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Cadw i weithio ar sioeau cerdd gwreiddiol o Gymru.

Ydych chi wedi perfformio ar lwyfan y Torch o'r blaen? Os do, pryd? 
Do .. Gwenith Gwyn/ White Wheat (Taith Cwmni Theatr Cymru) nôl yn yr 80 au) yn y ddwy iaith. Belonging 2018, (Re- Live) gyda’r cyfarwyddwr Peter Doran sydd newydd ymddeol o fod yn Gyfarwyddwr Artistig yn y Torch.

Soniwch faint yr ydych yn edrych 'mlaen dod i Sir Benfro ac i'r Torch.
Mae cynulleidfa Sir Benfro wastad yn groesawgar a chynnes ac mae awyrgylch y theatr yn arbennig o dda.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.