TIC TOC – PRANCIO BENDIGEDIG A CHWERTHIN YN THEATR Y TORCH!

Mae Tic Toc yn stori gerddorol am griw clos o ffrindiau oedd yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffatri. Fe wnaethant ganu, chwerthin a dawnsio gyda’i gilydd i ddarganfod cryfder mewn cyfeillgarwch a hynny tra fod y byd o’u hamgylch yn newid. Yna daeth deigryn yn nyfodol y cyfeillgarwch hwnnw. A nawr me aduniad wedi ei drefnu... ond mae un ohonyn nhw heb dderbyn gwahoddiad! 

Bydd Tic Toc, sioe dwyieithog wedi ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Valmai Jones o gwmni Parama2, yn ymweld â Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ddydd Iau 23 Mawrth.

Mae’n talu teyrnged i fenywod y ffatri mewn sioe sy’n seiliedig ar eu straeon a’u hatgofion. Ymunwch â nhw i ail-fyw'r atgofion hynny wrth iddyn nhw ymgynnull i ail-greu'r amserau da a dod yn jeifwyr ifanc eto!

Yn cynnwys cast gwych gan gynnwys y gantores a’r comedïwr Gillian Elisa, Lowri-Ann Richards, Clare Hingott, Olwen Rees a Mary-Anne Roberts, bydd Tic Toc yn apelio i holl garwyr theatr a sioeau cerdd, yn enwedig y rheiny sy’n mwynhau stori am fenywod penderfynol, annibynnol, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer cydraddoldeb i fenywod a chwarae teg.

Bydd cefnogwyr Billy Elliot yn adnabod Gillian Elisa fel ‘Grandma’ a wnaeth ei chwarae yn y West End am bum mlynedd. Fe wnaeth Gillian hefyd chwarae rhan ‘Nana Pat’ yn y gyfres boblogaidd Stella ar Sky 1 gan Ruth Jones. Mae wedi gweithio’n helaeth ar deledu Cymraeg a Saesneg, ac ym myd theatr, gan chwarae cymeriadau megis Sabrina yn Pobol y Cwm, Ditectif Ringyll Allison Griffiths yn A Mind to Kill (gyda Philip Madoc) a gwerthwr dillad isaf Nessa yn Gavin and Stacey.

Wedi ei pherfformio mewn sawl lleoliad ar draws Cymru cyn pandemic covid, mae Tic Toc yn ôl ar y ffordd eto gan ymweld â sawl lleoliad arall dros y misoedd nesaf.

Mae’r sioe wedi profi’n hynod boblogaidd gyda chynulleidfaoedd dros y wlad.

“Dyna i chi brancio bendigedig! Mae Parama2 yn rhoi pranc o berfformiad llawn canu a dawnsio gyda phawb ar y llwyfan hwnnw yn chwarae i'w chryfderau naturiol yn ddiymdrech a chyda llawenydd. Paratowch i daro’ch troed a hel atgofion,” medda aelod o’r gynulleidfa.  

Bydd Tic Toc yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 23 Mawrth am 7.30pm. Tocynnau’n £15.00. £12.00 consesiwn. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.