THEATR Y TORCH YN CYNNAL SÊL Y GAEAF I DDIOLCH I’W CHEFNOGWYR

Fel modd o ddiolch yn fawr iawn i’w chefnogwyr bydd Theatr y Torch, Aberdaugleddau, yn cynnig tocynnau sinema £5 fel rhan o Sêl y Gaeaf. Yn dilyn blwyddyn galed i sefydliadau celfyddydol ar draws y wlad mae’r Torch am roi rhywbeth yn ôl i bawb sy’n ymweld drwy wneud taith i’r sinema yn fwy fforddiadwy i bawb.

Bydd Sêl y Gaeaf yn digwydd rhwng Ionawr 19 a Chwefror 29 a bydd yn darparu rhywfaint o hwyl ac adloniant y mae mawr eu hangen yn ystod y dyddiau oer a gwlyb.

Mae Janine Grayshon, Cydlynydd Rhaglen Artistig Theatr y Torch yn gobeithio y bydd llawer yn mynychu’r sinema i weld yr amryw o ffilmiau sydd ar gael, gan gynnwys The End We Start From, yn serennu’r gwych Jodie Comer, y biopic dadleuol, Priscilla ac wrth gwrs, ffefryn pawb - Peppa Pig!

“Rydym yn falch iawn o fod yn cynnig tocynnau sinema am bris gostyngol. Mae’r Torch wedi derbyn cymaint o gefnogaeth gan ein cymuned felly pa ffordd well i ddweud diolch na thrwy wneud taith sinema yn fwy fforddiadwy. Gyda rhestr wych o ffilmiau, rwy’n siŵr bod rhywbeth at ddant pawb! A pheidiwch ag anghofio codi eich cerdyn teyrngarwch sinema yn y Swyddfa Docynnau am fwy fyth o fuddion,” meddai Janine.

Mae Theatr y Torch yn lle croesawgar i bob oed ac o fis Ionawr i fis Mawrth bydd hefyd yn cynnal rhaglen newydd sbon o'r enw Lle Cynnes sy’n addas i'r rhai dros 50 oed. Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim yn cynnwys drama, peintio, ioga a chlwb llyfrau, a wnaed yn bosibl oherwydd cefnogaeth gan gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

“Rydyn ni’n gwybod bod cael y cyfle i gael mynediad at gysylltiadau creadigol diogel a rheolaidd yn cefnogi iechyd meddwl a lles pawb, felly bydd ein rhaglen dreigl o ddigwyddiadau pythefnosol yn galluogi pobl i ddewis o ystod o weithgareddau ymarferol. Mae pob sesiwn hefyd yn cynnwys te a choffi, yn ogystal â digon o amser i sgwrsio a chwrdd â ffrindiau,” esboniodd Tim Howe, Uwch Reolwr, Ieuenctid a Chymuned yn y Torch.

Am fwy o wybodaeth ar ddangosiadau sinema a Lle Cynnes yn y Torch, neu i ddod yn aelod o Theatr y Torch, cysylltwch gyda Swyddfa Docynnau’r Theatr ar (01646) 695267 / https://www.torchtheatre.co.uk/support-us/memberships/.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.