Theatr Torch yn eich gwahodd i Sioe Gerdd Oinc-Tastig!
Yn dilyn llwyddiant ysgubol ‘The Three Billy Goats Gruff’, mae Lost The Plot Theatrical yn heidio am y ffordd fawr eto gyda chlasur arall i’r teulu ... The Three Little Pigs, ac rydym oll yn caru peth tapio traed moch a gwichian moch bach yma yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau!
Fis Chwefror hwn, mae’n amser i chi gael eich cludo i fyd arall gyda’r antur sioe gerdd newydd sbon hon, ble, mewn cae llawn mwd ger y fferm, mae Tri Mochyn Bach yn byw. Wedi cael llond bola ar eu trefn dyddiol, maen nhw’n penderfynu trotian oddi yno i diroedd gwell.
Ymunwch gyda’n tri mochyn bach wrth iddyn nhw adael y cwt teuluol er mwyn chwilio am antur newydd! A fyddan nhw’n gwneud traed moch o’r cyfan, neu a fyddan nhw’n codi’r to? Bydd angen bod yn glyfar, yn ddewr gyda chynffonnau cyrliog i adeiladu pontydd a meithrin cyfeillgarwch â'i gilydd a'r rhai y maent yn dod ar eu traws ar hyd y ffordd.
Sicrhewch bod y traed moch hynny’n tapio a’ch bod yn gwichian ganu’r caneuon bachog newydd gan ddawnsio. Bydd digon o gyfranogiad gan y gynulleidfa hefyd ar gyfer perchyll o bob oed. Does dim ar ôl i’w wneud ond archebu eich tocynnau ar gyfer y sioe gerdd oinc -tastig hon!
Caiff The Three Little Pigs ei pherfformio ar lwyfan Theatr y Torch ar ddydd Sadwrn 17 Chwefror am 1pm a 3pm. Tocynnau Oedolyn: £13.50 a Phlentyn: £12. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.