Theatr Torch yn Adrodd am Lwyddiannau Enfawr yn 2024

Mae Daisy’r fuwch wedi gadael Theatr Torch am borfeydd newydd ac mae Jack yn hapus yn llafurio’r pridd yn Fferm Trott’s Tater. Yn dilyn cyfres wych y pantomeim Nadoligaidd o Jack and the Beanstalk, mae’n amser i Theatr Torch fyfyrio ar ei llwyddiannau a’i hymgyrch ‘Unwaith Eto.’

Mae panto Theatr Torch (a noddir eleni gan Valero) yn parhau i fod yn wledd Nadoligaidd holl bwysig i bobl ifanc ledled Sir Benfro, gyda’r nifer uchaf erioed o ysgolion yn manteisio ar Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cynnig cymorth i ysgolion fynd i ddigwyddiadau diwylliannol.

Derbyniodd y Torch hefyd dros 200 o geisiadau ar gyfer ei chystadleuaeth ‘Offer Aur y Cawr’, a welodd nifer o ysgolion yn cyflwyno dyluniadau gan ddisgyblion o bob ystod oedran! Yr enillydd buddugol oedd Jac o Ysgol Uwchradd Hwlffordd, ac fe wnaeth ei esgid Croc Euraidd syfrdanu miloedd o aelodau'r gynulleidfa ar draws holl rediad y panto.

Dywedodd Tim, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y theatr: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn bresennol, llawer ohonyn nhw am y tro cyntaf! Mae Panto yn gyfle hanfodol i blant gysylltu â theatr fyw. Mae’n anrhydedd i ni mai’r Torch yw’r atgof cyntaf hwnnw i gynifer o aelodau ein cymuned, gyda llawer ohonyn nhw’n mynd ymlaen i ymuno â’n theatr ieuenctid.”

Diolch i haelioni Canolfan Arddio Elder Meadows derbyniodd pob ysgol a fynychodd ychydig o ffa i dyfu eu coesyn ffa eu hunain. Bydd y Torch yn cynnal cystadleuaeth yn hwyrach eleni i weld pa ysgol sydd wedi tyfu'r coesyn ffa talaf.

“Mae’n frwydr yn erbyn y ffa yma yn Sir Benfro, allwn ni ddim aros i ddarganfod pa un yw’r talaf,” chwarddodd Tim.

Yn ôl ym mis Medi, lansiodd Theatr Torch ei hymgyrch Unwaith Eto, gan ofyn i aelodau’r gynulleidfa fynd i’r Torch unwaith eto yn ystod 2024 nag y byddent fel arfer, ac fe wnaethant ymateb mewn grym. I ddiolch i gynulleidfaoedd am eu cefnogaeth barhaus, mae'r Torch yn cynnig arwerthiant gaeaf arbennig gyda phob tocyn sinema yn £5 yn unig. Mae'r cynnig hwn yn rhedeg tan 6 Mawrth, felly prynwch eich tocynnau nawr!

Roedd yr ymgyrch hon yn llwyddiannus iawn fel yr eglura Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch:

“Mae aelodau’r gynulleidfa wedi ein helpu ni’n aruthrol drwy fynychu’r Torch ‘Unwaith Eto.’ Mae pobl leol wedi camu i’r adwy ac wedi ein cefnogi i godi arian y mae mawr ei angen i barhau gyda’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud gyda’n cymuned ac ar ei chyfer.

Wrth ddod i glo meddai Chelsey: “Fel elusen rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom a diolch i haelioni ein cynulleidfaoedd rydym wedi llwyddo i gyflawni mwy nag erioed gyda’n rhaglen waith ar lwyfan a chyda’n gwaith ieuenctid a chymunedol. Ond fel bob amser mae gennym ni uchelgeisiau ar gyfer 2025 i fod hyd yn oed yn well, gyda llwyth o Sinema, Darllediadau a Theatr Fyw gwych ar y gweill rydyn ni'n gwybod y byddwch chi'n dod o hyd i rywbeth a fydd yn gwneud i chi am ddod 'Unwaith Eto' yn 2025.”

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Jack and the Beanstalk, mae Theatr Torch eisoes yn cynllunio ei phantomeim ar gyfer 2025 – yr antur Rapunzel. Dyma fydd y tro cyntaf i’r Torch berfformio’r stori ac mae’r tocynnau Cyntaf i’r Felin yn gwerthu’n dda gyda’r holl docynnau wedi’u rhewi ar brisiau’r llynedd tan 6 Mawrth.

“Gadewch eich gwallt yn rhydd ac ymunwch â ni ar gyfer y stori droellog hon am y ferch â'r gwallt hudolus, wedi'i chloi i ffwrdd mewn goleudy oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae’n wledd Nadoligaidd a fydd yn diddanu’r teulu cyfan gyda jôcs chwerthin hollti bol, cyfranogiad gan y gynulleidfa, caneuon gwreiddiol a digon o gyffro gwirion,” meddai Chelsey.

Gellir gweld Rapunzel yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr tan ddydd Sul 28 Rhagfyr. Am docynnau neu ragor o wybodaeth ewch i torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 a bydd staff cyfeillgar yno yn hapus i’ch helpu.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.