THEATR IEUENCTID Y TORCH YN MYND Â DRAMA NEWYDD SBON AR DAITH
Ym mis Chwefror eleni, bydd Theatr Ieuenctid y Torch yn gweld 12 o’i haelodau’n perfformio Replica – darn newydd o waith a ysgrifennwyd gan y cyfarwyddwr a’r cerddor, Titas Halder.
Gyda chefnogaeth Rhaglen National Theatre Connections, bydd y bartneriaeth rhwng y National Theatre a Theatr y Torch, yn gweld tri pherfformiad yma yn Sir Benfro ar lwyfan y Torch, cyn bwrw’r ffordd a mynd tua’r gogledd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Connections yw gŵyl theatr ieuenctid genedlaethol flynyddol y National Theatre, sydd wedi bod yn rhedeg ers bron i 30 mlynedd. Mae Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn Theatr y Torch yn gyffrous iawn bod aelodau ifanc y Torch yn cymryd rhan ynddo am y tro cyntaf.
Meddai: “Rydym wrth ein bodd y bydd ein haelodau hynaf yn rhan o’r rhaglen wych hon, sydd â hanes rhyfeddol o hyrwyddo talent pobl ifanc o bob rhan o’r DU. Yn flynyddol, mae’n comisiynu dramâu newydd i bobl ifanc eu perfformio ac yn dod â rhai o awduron mwyaf cyffrous y DU ynghyd â gwneuthurwyr theatr yfory. Eleni, bydd yn gweithio gyda bron i 270 o gwmnïau ieuenctid o bob cornel o’r DU, ac mae’r Torch yn falch iawn o fod yn cynrychioli ieuenctid anhygoel Sir Benfro.”
Bydd Replica yn Theatr y Torch yn cael ei gyfarwyddo gan Tim gyda’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ceri Ashe o Sir Benfro, (a chwaraeodd yr Evil Fairy Shadowmist ym mhantomeim 2023 Theatr y Torch, Beauty and the Beast).
Mae Replica yn waith newydd amserol am y modd y mae sïon yn ymwreiddio i wead ein cymdeithas, a’r dewisiadau y cawn ein gorfodi i’w gwneud pan fo si ychydig yn rhy agos at y gwir.
Ceri Ashe sy’n esbonio mwy:
"Mae'n gyffrous bod yn ôl yn gweithio yn y Torch ar gynhyrchiad anhygoel gyda'r aelodau theatr ieuenctid gwych yma. Mae'r stori yn dilyn person ifanc o'r enw Sam. Mae'r cymeriadau sydd wrth wraidd y stori yn credu bod Sam wedi newid; ei fod wedi dod yn ddyblygiad… ”
“Mae’n fraint anhygoel cael bod ar y daith gyda’r bobl ifanc a Tim. Rwy’n teimlo fy mod yn dysgu cymaint gan bob un ohonyn nhw, ac rydym yn ffodus iawn i gael pethau mor wych yn digwydd yma yn Sir Benfro. Fe’ch anogaf i ddod draw i weld beth yw’r holl beth – ni chewch eich siomi!”
Mae ymarferion yn y Torch wedi hen ddechrau ac mae Tim yn edrych ymlaen at y daith.
Meddai: “Mae’n wych bod aelodau o’r Theatr Ieuenctid yn gallu gweithio ar gynhyrchiad mor wych. Nid yn unig y byddant yn cael y cyfle i berfformio o flaen eu cynulleidfa gartref yma yn Aberdaugleddau, ond byddan nhw hefyd yn teithio i ganolbarth Cymru gyda chynulleidfa wahanol, llwyfan ac awyrgylch newydd. Mae wir yn cynnig profiad theatrig gwych iddyn nhw, ac rydym yn gwybod y byddan nhw’n creu atgofion oes.”
Caiff Replica ei pherfformio yn Theatr y Torch ar nos Iau 22 Chwefror am 7.30pm, nos Wener 23 Chwefror am 7.30pm a nos Sadwrn 24 Chwefror am 7pm cyn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Ebrill. Prisiau tocyn Oedolyn: £10. Myfyriwr Llawn Amser: £8. Di-waith: £8. Anabl Cofrestredig: £8. Plentyn: £8. Dros 65: £8. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
Yn addas ar gyfer 12+.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.