CWMNI THEATR Y TORCH YN CYFLWYNO ‘THE WOOD’ WEDI EI FFRYDIO

O'r dramodydd Cymraeg clodwiw Owen Thomas, awdur y gwobrwyedig Grav, daw fersiwn wedi ei ffrydio'n ddigidol o ddrama lwyfan a ysgrifennwyd yn wreiddiol i goffáu diwedd y Rhyfel Byd I. Wedi ei hysbrydoli gan stori wir...

Wedi teithio eisoes i theatrau dan do ledled Cymru yn 2018, mae The Wood, sef cynhyrchiad gan Gwmni Theatr y Torch, yn ddarn pwerus, emosiynol o theatr sy’n rhoi ei hun yn hyfryd i’r sgrin.

Mae'r fersiwn sy'n cael ei ffrydio'n, yn aduno'r cast gwreiddiol wnaeth deithio yn 2018; Ifan Huw Dafydd fel 'Dan' a Gwydion Rhys fel 'Billy', ochr yn ochr â'r tîm gwreiddiol; Cyfarwyddwr Peter Doran a'r Cynllunydd Sean Crowley.

  

[Chwith: Ifan Huw Dafydd, 'Dan'; Dde: Gwydion Rhys, 'Billy']

Mae'n Orffennaf 1916, ac wrth i Frwydr y Somme gynddeiriogo, mae Mametz Wood yn atseinio i synau rhyfel wrth i 38ain Adran Gymraeg wynebu ffyrnigrwydd byddin yr Almaen ...

Mae Dan a Billy, dau filwr ifanc, yn meithrin cyfeillgarwch yng ngwres y cyfnod cyn y frwydr enwog. Pan fydd Billy yn cael ei ladd yng Nghoed Mametz, mae'n gadael ffrind difrodedig ar ôl ac, adref, gwraig torcalonnus a beichiog.

Wedi'i newid gan ei brofiadau ar Ffrynt y Gorllewin, mae Dan yn dychwelyd adref i gamu i esgidiau ei ffrind, gan briodi gweddw Billy ac yn y pen draw yn magu eu mab bach fel ei fabi ei hun. Hanner can mlynedd yn hwyrach, mewn llannerch yn y coed, mae Dan wedi dychwelyd i osod ysbryd i orffwys.

['Dan' yn myned Mametz Wood. - Lluniau Drew Buckley Photography, 2018]

Recordiwyd The Wood ar y llwyfan yn fyw yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, o dan ganllawiau Covid-19 yn ystod cyfnod clo 2021. Ymgymerwyd â chynhyrchu a golygu'r recordiad gan dîm technegol Theatr y Torch, dan lygaid craff Peter Doran ac Owen Thomas. Mae hon wedi bod yn ffordd newydd o weithio i Theatr y Torch, gan gofleidio technoleg ddigidol i ddod â theatr fesul cam yn ôl i gynulleidfaoedd tra bod lleoliadau yn parhau ar gau.

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch, Ben Lloyd:

 “Rydyn ni wrth ein bodd yn rhoi bywyd newydd i’r darn hyfryd, ingol hwn gan Owen, ac i allu ail-ymgynnull y cast gwreiddiol rhyfeddol. Mae cyflwyno'r cynhyrchiad hwn wedi bod yn ymdrech tîm anhygoel mewn amgylchiadau eithriadol, ac rydym yn gyffrous i gynnig cyfle i gynulleidfaoedd ledled Cymru a phrofi The Wood wrth gefnogi eu theatrau lleol, wrth i ni deithio tuag at ailagor yn ystod yr wythnosau a'r misoedd sydd o'n blaenau. ”

['Billy' yn cerdded ymhlith y coed. - Lluniau Drew Buckley Photography, 2018]

Mae Theatr y Torch yn falch iawn o fod yn gweithio unwaith eto gydag Owen Thomas - yn dilyn llwyddiannau blaenorol Grav a The Wood. Mae Owen yn gyffrous i weithio unwaith eto gyda'r tîm creadigol yn Theatr y Torch a gweld ei waith wedi'i addasu ar gyfer y sgrin:

“Yn yr amseroedd ansicr hyn ar gyfer theatr fyw, rwy’n falch iawn bod The Wood wedi cael ei ffilmio ar gyfer ffrydio. Mae ailedrych ar y ddrama wedi dod â llawer o atgofion gwych yn ôl ac mae bob amser yn bleser gweithio gyda Peter Doran a gweddill y tîm yn y gwych Theatr y Torch. Hyd nes y bydd theatr fyw yn ailddechrau, gobeithiwn y bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau gweld y ddrama hon a'r cast gwych ar y sgrin. ”

Bydd The Wood yn dechrau ar ei thaith rhithiwr o Gymru o ddydd Mawrth 22 Mehefin i ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf. Mae tocynnau ar gae o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch www.torchtheatre.co.uk wedi eu seilio ar bris y fedrwch ei dalu. Rhoddir tocynnau i'w ffrydio i bob cartref a gellir eu gwylio gymaint o weithiau ag y dymunwch am 48 awr o'r dyddiad sgrinio.

['Billy' a 'Dan' yn Mametz. - Lluniau Drew Buckley Photography, 2018]

Lleoliadau eraill sy'n cynnal y dangosiadau rhithwir o The Wood yw; Theatr MwldanTheatr BrycheiniogCanolfan Celf PontardaweCanolfan Celfyddydau AberystwythTheatr Clwyd, a Theatr y Sherman. Tocynnau hefyd ar gael i'w prynu'n uniongyrchol o'r theatrau yma fesul eu gwefan, eto gyda phris o'r hyn y fedrwch ei dalu.

Mae Theatr y Torch yn bwriadu ail-agor ei drysau i'r cyhoedd cyn diwedd Haf 2021.

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan y theatr am ddiweddariadau pellach!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.