The Wind in the Willows Adolygiad gan Val Ruloff

Cael eich rhyfeddu .. gan Wind in the Willows! Mae mynd ar daith hwylio ar lan yr afon yn bleser arbennig dros yr haf.

Nid oes angen cael eich "perswadio" i wneud y siwrnai hon o ddarganfod, antur a chwrdd â ffrindiau newydd arbennig iawn. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys llawer o grwydro difyr a llawen, yn ogystal â pheryglon a risgiau i'w hwynebu a gwersi i'w dysgu ar hyd y ffordd.

Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn cyflwyno cynhyrchiad gwefreiddiol a hollol gyfareddol o chwedl annwyl Kenneth Grahame "Wind in the Willows", wedi'i haddasu gan Glyn Maxwell. Mae ein hoff gymeriadau ni i gyd yma...ac eraill! Does dim terfyn ar y syrpreis a’i thro modern, gyda chyfeiriadau i raglenni teledu cyfoes lleol. Mae’r rhain hefyd yn cynnwys defnydd doniol o westai a thafarnau Sir Benfro a hyd yn oed y gwnstabliaeth.

Huzzah a hwyl i hynny!

Mae Tim Howe, y Cyfarwyddwr, yn haeddiannol yn haeddu clod o’r mwyaf. Mae 'na gwmni mawr o berfformwyr rhwng 8 a 18 oed yn cymryd rhan yn Wind in the Willows. Cânt eu trefnu'n dda iawn gan y Cyfarwyddwr... ac maent yn trefnu eu hunain yn wych hefyd. Adlewyrchir egni bywiog y cynhyrchiad yn y defnydd deinamig o'r gofod llwyfan a hefyd yr awditoriwm cyfan.

Mae'r golygfeydd gwledig yn atmosfferig. Mae'r propiau a chynlluniau set, gwisgoedd, dyluniad goleuo, cerddoriaeth a sain wedi'u trefnu'n hyfryd i ysgogi delweddaeth y stori. Mae rhai cyffyrddiadau swynol yn cael eu harddangos i'w mwynhau... megis model Toad Hall, cerddoriaeth fynedfa anhygoel Toad, gwisgoedd i bortreadu'r cymeriadau unigol, effeithiau sain ar gyfer "Slurpex", papur newydd Ratty, basged bicnic a chynnwys Ffansi Ffrengig, tu mewn i'r carchar a gefynnau, golygfeydd cegin a golchi.

Mae'r rhain yn llwyddo i gwmpasu'r traddodiadol a'r annwyl iawn, yn ogystal â chynnwys y dechnolegol ddiweddaraf!!

Dylid talu sylw arbennig iawn i bob aelod o'r cast. Mae yna rai golygfeydd gwych yn cynnwys cast yr ensemble, a phob ystod oedran. Ni ellir ond disgrifio'r rhain fel rhai hyfryd a swynol.

Mae'r prif gymeriadau a'r cymeriadau cefnogol yn rhoi perfformiadau syfrdanol unigol.

Me’r holl gymeriadau, ac yna'r holl filwyr o wencïod a charlymod argyhoeddiadol, y gweithiwr golchdy ysbrydoledig ac arddangosfeydd coginio ... pob un yn cyfrannu at gyfanwaith rhyfeddol. Mae'r ddrama a'r tensiynau'n cynyddu, dim ond i gael eu tyllu gan hiwmor a llond bol o chwerthin. Mae'r sgript a'r ddeialog yn wych.... i’w mwynhau ac yn ffraeth iawn. 

Mae yna amseri comedi gwych a pheth dwsyter go iawn yn cael eu portreadu yn y perfformiadau. Mae'r castio wedi'i ysbrydoli, gyda phob cymeriad wedi'i gastio'n arbennig o dda. Mae'r dalent sy'n cael ei harddangos yn sefyll ar ei phen ei hun... ac yn siarad drosto'i hun.

Clod haeddiannol i Leisiau’r Torch dan arweiniad Angharad Sanders; Dyluniad Gwisgoedd Sophie Barlow; Cyfeiriad Ieuenctid Ben Hall; Dylunydd Cynorthwyol Ieuenctid, Lily Joy Mathias; Dyluniad Goleuadau Andrew Sturley; Rheolwr Technegol Cynorthwyol, Simon Evans; Technegwyr Hŷn ac Iau, Jake Dyer a George White yn y drefn honno; Rheolwr Gweithdy, Sam Wordsworth; Cyfarwyddwr Artistig y Torch, Chelsey Gillard a’r Dylunydd Brethyn Coetir, Kevin Jenkins.

Gobeithio nad yw'n rhy Llyfantog i awgrymu bod mynd i wylio Wind in the Willows yn adloniant haf hanfodol. Byddwch yn siwr i wenci eich ffordd i mewn.Byddwch yn ymwybodol bod Mole yn y gwersyll, a fydd yn sicr o’ch ffyrnigo arnoch os meiddiwch i golli allan. Nid bod hyn i’cj perswadio mewn unrhyw ffordd, wrth gwrs.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.