The Wind in the Willows Adolygiad gan Riley Barn

Yng nghanol y goedwig mae Mole yn cael ei hun ar goll. Yn y diwedd mae ei golwg gwael yn ei harwain at lan yr afon lle mae'n cwrdd â Mr Rat sy'n mynd â hi ar daith mewn cwch. Ar ôl ychydig amser ar y dŵr; mae'r Toad cyfoethog, byrbwyll a drwg yn difetha'r llonyddwch gyda chwch cyflym newydd sbon y bu'n brolio amdano i Mr Rat. Yn y diwedd mae Ratty a Mole yn cwrdd â Miss Badger sy'n eu hannog i fynd i Toad Hall a cheisio siarad rhywfaint o synnwyr i Toad am gyfrifoldeb! Yn anffodus mae rhai… pethau llai ffodus yn digwydd sydd oll yn deillio o weithgareddau Mr Toad ac oherwydd hynny maen nhw'n cael eu hunain ar gyrch i geisio adennill Toad Hall. Y Wenci ystrywus sydd yn gyfrifol am yr anghenfil melyn o’r enw ‘Y Slurpex’.

Mae’r comedi deuluol The Wind in The Willows yn stori ble mae gwersi yn cael eu dysgu am gyfeillgarwch a chyfrifoldeb, ac a berfformir gan y Theatr Ieuenctid. Mae wir yn olygfa hyfryd i’w gweld! Yn llawn chwerthin i bawb ac ambell elfen ddifyr ar y stori wreiddiol, arweinia at ddigwyddiad difyr dros ben. Rwyf wedi fy syfrdanu gan y ffordd y gwnaethant droelli’r clasur o Wind in The Willows a gwneud rhai cyfeiriadau at gynlluniau arian y byd go iawn a ddefnyddir mewn ffyrdd clyfar iawn.

Ceir seibiannau bob hyn a hyn lle mae'r cast o'r neilltu oddi wrth y prif gymeriadau yn cael eu hamser i ddisgleirio gyda rhai o fy hoff eiliadau yn efelychu rhai golygfeydd bach torfol. Mae’r cyfle i blant iau gael clywed eu hunain yn rhyfeddol ac yn gwneud synnwyr o gymuned o fewn y cast. Ymddengys eu bod yn rhoi personoliaethau i gymeriadau na fyddai fel arall wedi bod â phrif angen yn y stori ond fe wnaethant ei gwneud yn ffordd dda o gyfathrebu mwy o sioe wahanol o'r clasur “Goons” mewn diwylliant pop.

Canolbwyntia’r cynhyrchiad hwn ar ddatblygu'r stori trwy gyfathrebu’r cymeriadau a thoriadau o ran golygfa mewn llefydd doeth. Fe wnaeth yr elfennau yma wneud i bopeth ymddangos yn gyflymach gan ystyried bod y sioe yn eithaf hir. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y sioe bob amser yn ymddangos yn ddiddorol ac nid oedd erioed cyfnod ble roeddwn i'n colli ddiddordeb neu wedi diflasu. Roedd hyn oherwydd bod yr hyn a oedd ar y llwyfan yn parhau i daflu pethau mwy diddorol ata i.

Roedd y cynhyrchiad yn glyfar iawn o ran gwisgoedd hefyd oherwydd mae’n hawdd taflu llwyth o arian at wisgoedd anifeiliaid. Yn hytrach, aethant am ddyluniad mwy syml a gwneud i'r cymeriadau edrych ychydig yn fwy dynol ond roedd eu gwisgoedd yn dal i adlewyrchu eu hanifail. Er enghraifft, roedd Mole yn gwisgo gwisg llwyd a glas a oedd yn adlewyrchu lliw naturiol tyrchod daear ond gwnaethant hefyd iddi ymddangos yn swil iawn ond yn gyfeillgar a oedd yn ychwanegiad braf. Cadwodd mochyn daear hefyd at gynllun lliw du a gwyn a wnaeth nid yn unig iddi edrych fel mochyn daear go iawn ond hefyd fel ffigwr o awdurdod y mae'n ei hefelychu trwy gydol y sioe.

Ar y cyfan rwy'n meddwl ei bod wedi'i chreu’n dda ac yn ongl braf o’r chwedl glasurol The Wind in The Willows. Sioe dda i'r teulu oll!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.