The Wind in the Willows Adolygiad gan Liam Dearden

SUPERB, LIKE IT, HAZAHH 

Camwch i fyd hudolus y Goedwig Wyllt, lle daw cyfeillgarwch, antur, a chariad at fyd natur ynghyd mewn cynhyrchiad a fydd yn eich gadael wedi’ch swyno. Mae addasiad bywiog Theatr Ieuenctid y Torch o glasur annwyl Kenneth Grahame, "The Wind in the Willows," wedi'i addasu gan Glyn Maxwell yn gampwaith go iawn. Mae hefyd yn stori am garu ein planed a derbyn pwy ydym ni. Mae’n lle hudolus lle mae anifeiliaid yn dod yn fyw mewn ffyrdd rhyfeddol gan greu chwerthin ac arswyd a gyfareddodd y gynulleidfa.

Mae “The Wind in the Willows” yn un o'r straeon hynny sydd â fersiwn sy'n perthyn i bob cenhedlaeth. Mae gan bob un ohonom gysylltiad â’r stori hon, sy’n apelio’n fawr at bawb, ac mae ei themâu mor gyfarwydd.. O dan gyfarwyddyd Tim Howe, mae’r cast ifanc dawnus o ddeugain yn dod â chymeriadau swynol Mole, Ratty, Toad, a Badger yn fyw mewn cynhyrchiad sy’n ffyddlon i’r stori wreiddiol. Yn llawn dawn gyfoes unigryw, fodern y tu hwnt i’r syniadau cyffredinol hyn, mae'n stori am arwyr a dihirod, lle rydyn ni'n gwybod y bydd y da bob amser yn fuddugol rywsut, rywsut! Yn sicr, rhoddodd Theatr Torch ei helfen ei hun ar y stori gyda rhai cyfeiriadau lleol yn gwneud i’w haddasiad ffynnu i genhedlaeth newydd.

Mae naws byd natur, priddlyd y llwyfannu a chynllun y set yn cyfleu awyrgylch y coetir yn berffaith gan ymgorffori’r coed troellog sy’n rhan o’r goedwig gwyllt hwn a meinciau wedi’u lapio mewn dail a llenni yn hongian yn gwneud i’r cynhyrchiad amatur hwn deimlo’n agos iawn. Mae'n gynhyrchiad sy'n asio darluniau'r gyfrol ond hefyd darluniau Quentin Blake ac esthetig y cyfarwyddwr Wes Anderson. Mae'n hydrefol iawn tra bod y gwisgoedd gan Sophie Barlow yn ddosbarth meistr mewn creadigrwydd, gyda dyluniad pob cymeriad yn tasgu allan o dudalennau Grahame yn y drefn honno.

Mae’r stori’n dilyn taith Mole wrth iddi adael ei chysur a darganfod llawenydd cyfeillgarwch ac antur gyda Ratty, Badger, ac wrth gwrs, Toad, sy’n sicr yn mynd i ddigon o ddireidi. Ar hyd y ffordd, maent yn dod ar draws y dihiryn Cheif Weasel a’i gang o ffuredau a charlymiaid, sy’n bygwth tarfu ar gytgord heddychlon y Goedwig Wyllt ochr yn ochr â sŵn trwm y Slurpex. Mae bodolaeth y coetir hwn a Toad Hall dan fygythiad.

Roedd y cast yn ei gyfanrwydd yn rhagorol, yn cydweithio mewn harmoni perffaith, tra hefyd yn cyflwyno perfformiadau unigol gwych. Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn ofod creadigol diogel i bob person ifanc ddysgu amdanyn nhw eu hunain, pobl eraill a’r byd o’u cwmpas. Nid yw eu sesiynau yn ymwneud ag actio a theatr yn unig; mae'r Torch yn sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu am sgiliau cymdeithasol, datrys problemau, a gwaith tîm. Yn bwysicaf oll, cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd. Felly am y tro cyntaf ers degawd mae dros ddeugain o bobl ifanc rhwng 8 a deunaw oed wedi cymryd yr awenau ar y prif lwyfan. Mae’r cynhyrchiad yn benllanw 11 wythnos o waith gyda phob grŵp yn cael 20 awr o ymarferion. Mae hyn yn wirioneddol wedi bod yn her aruthrol.

Roedd gan y pedwarawd anhygoel ddeinamig gwych - Mole (Katya), Badger (Elin) Toad (Daniel) a Ratty (Neo) ac yn gweithio'n rhyfeddol o dda gyda'i gilydd gyda gweadau amrywiol ac amryw o bersonoliaethau. Roedd hyn yn creu portread gwych o'r  cyfeillgarwch go iawn, oll yn dod â gwahanol bethau i'r grŵp. Fe wnes i fwynhau Mr Toad yn arbennig, a oedd yn rhyfeddol o ecsentrig a doniol a swnllyd. Mae'r byd-enwog Toad of Toad Hall yn un o'r bobl hynny y gallai pawb ei gasáu ond yn gyfrinachol rydym oll am fod yn Toad! Mae gan yr annwyl Toad lot o arian a’r peiriannau mwyaf cyfoes. Pan mae wedi cael llond bola ar un peth, aiff allan i brynu rhywbeth newydd arall cyffrous. Daw Elin ag ymdeimlad o aeddfedrwydd a doethineb i’r tanddaearwr doeth a gwybodus hwn sy’n dod â brwdfrydedd a llyfndeg i’r rôl. Ratty yw’r creadur cyntaf i gwrdd â’r Mole ac mae’n llawer mwy ymwybodol o’r byd na’i ffrind tanddaearol. Mae Ratty hefyd yn breuddwydio am y môr a'r byd ehangach y tu hwnt i'r afon. Roeddwn wrth fy modd â'r ferch ifanc sy'n portreadu Moley. Mae hi'n dod â'r fath ddidwylledd i'r rôl. Mae hi fel arfer yn byw dan ddaear ond yn treulio'r stori yn darganfod llawenydd bywyd uwchben y ddaear. Mae hi'n dipyn o greadur nerfus, sy'n gallu mynd yn or-gyffrous ac mae hyn weithiau'n ei harwain i drafferthion. Mae hi'n ffrind ffyddlon a chymwynasgar. Mae Callie-May yn portreadu gwenci mor hyderus sy’n honni mai hi sydd â gofal am y Slurpex, ond nid yw bob amser yn gwrando arni, ac mae’n rhedeg yn araf dros bopeth yn y Coed Gwyllt ac yn gorfodi’r anifeiliaid allan o’u cartrefi.

Byddai’n annheg rhoi sylw i unrhyw aelod unigol o’r cast gan eu bod yn gyffredinol wych yn eu rolau, fel yr oedd yr ensemble llawn ffuredau a charlymiaid sydd oll yn wych a’r plant bach sy’n eu portreadu yn sêr llwyr. Un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad hwn yw ei allu i gydbwyso hiwmor ysgafn â chwedl mor oesol sy’n atseinio’n ddwfn i gynulleidfaoedd o bob oed a dathlu grym cyfeillgarwch, teyrngarwch, a derbyniad. Mae’r mae'r cynhyrchiad hwn yn gwneud cyfiawnder ag ef.

Ar y cyfan mae sioe The Wind in the Willows yn brofiad teuluol hyfryd di-amser yr wyf yn argymell i unrhyw un, plentyn neu fel arall fynd i’w gweld. Ewch i chwarae ar hyd glan yr afon ac efallai y byddwch chi'n dod o hyd i rai ffrindiau newydd ar hyd y ffordd! gan fod y Pibydd wedi dod i Aberdaugleddau.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.