Tro Annisgwyl ar Glasur Prydeinig i Blant yn Theatr Torch!
Mae bron i ddegawd ers i bob grŵp oedran sy’n mynychu Theatr Ieuenctid y Torch ymddangos ar y llwyfan gyda’i gilydd. Bydd cynhyrchiad mis Gorffennaf hwn o The Wind and the Willows yn dod â dros 40 o bobl ifanc i’r llwyfan yn y sioe hyfryd, annwyl hon gyda thro annisgwyl Theatr Torch ac yn cynnwys Côr Lleisiau’r Torch.
Mae’r clasur Prydeinig wedi’i ysbrydoli gan y nofelydd plant adnabyddus Kenneth Grahame, a gyhoeddodd Wind and the Willows am y tro cyntaf ym 1908. Ers hynny, mae’r ffefryn teuluol wedi’i addasu i ffilm a theatr ac mae pawb wedi syrthio mewn cariad â’r arwrol Badger, Ratty, Mole ac wrth gwrs Toad o’r Toad Hall ysblennydd.
Gan ddathlu cyfeillgarwch, teyrngarwch ac antur, bydd yr actorion rhwng wyth a 18 oed yn swyno pob aelod o’r teulu fis Gorffennaf eleni, gyda stori glasurol yn llawn picnics, ‘pŵp pŵps’ ac ambell dro annisgwyl.
Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr addasiad hwn o The Wind and the Willows gan Glyn Maxwell:
“Mae cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ers i’n prif lwyfan gael ei lenwi â chynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch, a pha ffordd well o wneud hynny na gyda’r stori hon o gyfeillgarwch parhaus wedi’i gosod ar lan yr afon. Yn y fersiwn hon mae Mole, Ratty, Badger, ac wrth gwrs y Toad byd-enwog yn herio Wild Wooders, y Wenci erchyll ac anghenfil melyn dirgel o’r enw ‘The Slurpex’. Dewch i weld a all ein harwyr eu trechu,” esboniodd Tim.
Ychwanegodd: “Rydym wir yn gyffrous i fod yn darparu'r cyfle hwn i'n pobl ifanc. Rydym yn gwybod ochr yn ochr â chynhyrchiad ysblennydd y bydd ein hystafell ymarfer a'n theatr yn llawn atgofion yn cael eu creu a chyfeillgarwch yn cael ei ffurfio. Nid yn unig y mae’r cynhyrchiad hwn yn darparu atgofion gydol oes unigryw, ond mae hefyd yn cefnogi ein pobl ifanc gyda buddion hirdymor ar gyfer iechyd meddwl a llesiant. Rydym bob amser yn chwilio am unigolion a busnesau i gefnogi'r gwaith hanfodol hwn felly os yw hyn yn rhywbeth y mae gennych ddiddordeb ynddo, cysylltwch â ni.”
Mae Ieuenctid Theatr Torch wir yn edrych ymlaen i’ch croesawu am amser Toadaly-tastig! Pŵp! Pŵp!
Bydd The Wind and The Willows yn cael ei pherfformio ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Llun 22 i ddydd Mercher 24 Gorffennaf am 6.30pm. Pris toccyn: £10. £8 consesiwn. I archebu eich tocynnau neu am wybodaeth bellach, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.