The Very Hungry Caterpillar Show

Mae’r cynhyrchiad clodwiw o The Very Hungry Caterpillar Show a grëwyd gan Jonathan Rockefeller yn cynnwys cyfres o 75 o bypedau hoffus. Mae’r cynhyrchiad yn addasu’n ffyddlon pedair stori gan yr awdur/darlunydd Eric Carle: Brown Bear, Brown Bear, 10 Little Rubber Ducks, The Very Busy Spider ac wrth gwrs, seren y sioe – The Very Hungry Caterpillar ac i’w gweld yn Theatr Torch fis Ebrill eleni.

Mae The Very Hungry Caterpillar Show, yn ddathliad bywiog o glasuron hoffus Eric Carle, yn gyflwyniad perffaith i theatr fyw ac wedi plesio cenedlaethau o ddarllenwyr ers ei gyhoeddi gyntaf ym 1969 gan werthu mwy na 48 miliwn o gopïau ledled y byd. Mae Brown Bear, Brown Bear, sydd bellach yn dathlu 50 mlynedd, wedi gwerthu mwy na 18.2 miliwn o gopïau.

The Very Hungry Caterpillar Show yw sioe #1 y byd i blant ifanc, yn chwarae i dros 1 filiwn o fynychwyr mewn dros 10 gwlad ac mae’r gwaith celf eiconig yr Hungry Caterpillar a grëwyd gan Eric yn hawdd ei adnabod ar unwaith.

“Allwn ni ddim ag aros i groesawu The Very Hungry Caterpillar Show yma i Theatr Torch. Mae pawb wedi clywed am y cymeriad neu wedi darllen amdano a nawr gallwch weld y cymeriad hoffus ar lwyfan y Torch yng nghwmni ei ffrindiau. Pa ffordd well o dreulio bore neu brynhawn gyda’r tri pherfformiad sydd gennym i’w cynnig,” meddai Anwen Francis, o Dîm Marchnata’r Torch.

Mae'r sioe wedi'i ddisgrifio gan y New York Times fel un “Bedazzling! Will Mesmerize Audiences!” ac fel “A Knockout Success” gan y Daily Telegraph.

Gallwch weld The Very Hungry Caterpillar Show yn Theatr Torch ar brynhawn dydd  Mercher 23 Ebrill am 2pm; bore Dydd Iau 24 Ebrill am 11am a phrynhawn dydd Iau 24 April am 2pm. Tocynnau’n: £14.00 | £12.00 Plentyn | £47.00 Teulu. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.