THEATR Y TORCH YN GOSOD LLYSGENHADON FFILM IFANC YN Y PICTIWR

Yn dilyn misoedd o ddatblygu ac ymgyrch recriwtio helaeth, lansiodd cynllun Llysgenhadon Ffilm Ifanc Theatr y Torch ar ddydd Mercher (25 Mawrth) gyda'i sesiwn ar-lein gyntaf. Fe wnaeth Alex Lloyd a James Gent o Theatr y Torch groesawu aelodau newydd ar ddechrau yr hyn sy'n addo i fod yn gyfle na ellir ei golli i bobl ifanc Sir Benfro sydd â diddordeb mewn ffilm a sinema i brofi ffilm mewn ffordd hwyliog ac addysgol.

Mae Llysgenhadon Ffilm Ifanc Theatr y Torch yn gynllun newydd ar gyfer y rhai 14-18 mlwydd oed ar draws Sir Benfro a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc wylio, trafod ac adolygu'r ffilmiau annibynnol diweddaraf, yn y DU, y rhai Rhyngwladol, a ffilmiau ysgubol. Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i'r llysgenhadon ifanc gael gweld eu hadolygiadau, ac, i ddarganfod mwy am sinema a gwneud ffilmiau mewn sesiynau gweithdy gyda ffocws ar gyfer darpar adolygwyr a siaradwyr gwadd arbennig.

Ar gyfer y sesiwn gyntaf, ymunodd Keiron Self, golygydd ffilm Buzz Magazine, â'r recriwtiaid newydd. Mae Keiron hefyd yn actor, ysgrifennwr sgriptiau a gwneuthurwr ffilmiau. Arweiniodd Keiron drafodaeth ddeniadol, eang ar ffilm a genres ffilm, gan wneud i'ch barn gyfrif fel gwyliwr neu feirniad. Soniodd am ei brofiadau ei hun yn ysgrifennu, yn perfformio ac yn datblygu sgriptiau ar gyfer ffilm a theledu.

Roedd Hywel Roberts o rwydwaith ffilm pobl ifanc Into Film Cymru hefyd yn bresennol. Yr ŵyl Into Film yw gŵyl ffilm flynyddol rad ac am ddim fwyaf y byd. Rhannodd gyda'r grŵp rai o'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc i ymgysylltu â gwneud ffilmiau gwych ac i ddatblygu safbwynt beirniadol fel y gallant ddysgu a thyfu o'r profiadau hynny.

Oherwydd cyfyngiadau presennol COVID, digwydda’r gweithdai a dangosiadau ffilmiau Llysgenhadon Ffilm Ifanc ar-lein. Pan fydd amodau'n caniatáu, ac unwaith y bydd Theatr y Torch wedi'i hailagor yn llawn ac yn gweithredu gyda rhaglen sinema lawn, bydd Theatr y Torch yn edrych ymlaen at groesawu ei Llysgenhadon yn bersonol i fanteisio'n llawn ar y profiad unigryw o fwynhau ffilmiau ar y sgrin fawr.

Meddai Alex Lloyd, Uwch Reolwr Marchnata, y Wasg & Chyfathrebiadau Theatr y Torch:

“Gwych oedd cwrdd â chymaint o bobl ifanc o bob rhan o Sir Benfro sy’n rhannu angerdd cyffredin dros ffilm a sinema. Dyma ddechrau'r daith ar gyfer cynllun Llysgenhadon Ffilm Ifanc. Mae gennym nifer o weithdai a ffilmiau gwych wedi'u cynllunio dros y misoedd nesaf a fydd yn rhoi mewnwelediad arbennig i'r diwydiant ffilm. Yn sicr mae yna ychydig o gefnogwyr ffilm Marvel yma yn Sir Benfro, ond byddwn yn cofleidio’r gorau oll o sinema annibynnol a’r DU fel rhan o brofiad y llysgenhadon.”

Mae cynllun Llysgenhadon Ffilm Ifanc Theatr y Torch wedi bod yn bosibl gan arian y Loteri Genedlaethol a ddosbarthwyd gan Ganolfan Ffilm Cymru, trwy Gronfa Arddangos Ffilm BFI FAN a ddyfarnwyd i'r Torch ym mis Hydref 2020.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.