The TigerFace Show Q&A

Mae’r sioe wedi’i disgrifio fel ‘Gwyllt. Dwl. Gwych.’ Dyweda fwy wrthym amdani.

Mae ganddi holl deimladau cyfarwydd sioeau i blant yr oeddem yn arfer ei gwylio ymhell yn ôl. Gydag unrhyw beth rydyn ni'n ei wneud rydyn ni'n tueddu i fynd ati gydag ychydig o anhrefn ac egni a all ysgwyd y gynulleidfa i naws newydd. Felly, pan aethon ni ati i wneud ein Sioe Deledu Plant ein hunain ar gyfer oedolion, roeddem am iddi fod mor fawr ac mor rhyfedd ag yr ydym yn cofio'r sioeau y gwnaethom ninnau eu gwylio. Rydyn ni wir wedi gweithio i greu rhesymeg fewnol gyfan ar gyfer byd y sioe, felly mae popeth yn gwneud synnwyr, ond ar yr un pryd yn ddisynnwyr. Achos meddyliwch am unrhyw un o'r sioeau roeddech chi'n arfer eu gwylio; Teletubbies er enghraifft. MOR RHYFEDD. Mae pedwar math o arth yn byw mewn twmpath, mae ganddyn nhw setiau teledu yn eu stumogau, yn bwyta cwstard ac yn mynd ar ôl hwfer ymdeimladol.

 

O ble ddaeth y syniad ar gyfer The Tigerface Show?

Daeth y syniad o sesiwn tynnu lluniau wnes i ymhell yn ôl yn 2011. Roeddwn wedi cael fy nhalu i wisgo fel teigr a chael tynnu lluniau yn erbyn cefndir jyngl a siopa gyda phlant. Roeddwn i'n adnabod y ffotograffydd, ac fe wnaeth gymryd rhai o luniau rhwng y rhai a lwyfannwyd. Daliodd y foment hon, ble roeddwn wedi gwisgo’n hurt, ond yn edrych yn ddiflas. Doeddwn i ddim lle roeddwn i am fod, yn gwneud yr hyn roeddwn i am ei wneud, a doeddwn i ddim yn gwybod sut y daeth i hyn. Mae'r sioe yn or-ddweud ac yn estyniad o'r holl deimladau hynny.

 

Rwyt ti’n gofyn i'r gynulleidfa beth maen nhw am fod pan fyddan nhw’n oedolion. Ein cwestiwn i ti yw, beth oeddet am fod pan ddes di’n oedolyn?

Ni allaf ddweud wrthyt beth roeddwn i am fod pan oeddwn yn tyfu i fyny, byddai'n datgelu gormod ar gyfer y sioe! Y gwir yw er fy mod yn meddwl fy mod i am fod yn llawer o bethau, un peth penodol dw i’n ei gofio, oedd am fod yn ddyn penodol allan o gatalog Kays (ti’n cofio hwnnw?). Roedd yn gwisgo siwt ac yn cario casyn dogfennau ac roedd yn olygus. Meddylaisi i’n hunan - dyna fi un diwrnod ... Pa mor anghywir oeddwn i.

 

Ai Piña Colada yw dy hoff ddiod?

Ow ie, yn bendaaaaant. Diod oedolion yw Pina Colada a ddylai fod yn ddiod i blant, heb yr alcohol wrth gwrs. I rywun sydd ddim yn hoff iawn o flas y diod, mae’n berffaith i mi fel melys, llawn siwgr ac weithiau daw ag  ymbarél ynddo!

 

Wyt ti wedi dod o hyd i hapusrwydd tebyg i blentyn wedi i ti ddod yn oedolyn?

Ydw. Ac mae'r yn ymwneud â sut y gwnes i hynny, a gobeithio y gall fod yn ymwneud â sut y gallai'r gynulleidfa wneud hynny hefyd.

 

A oes thema sylfaenol ddifrifol i dy sioe?

Oes, mae ‘na. Yn ei hanfod mae’r sioe yn ymwneud ag iechyd meddwl, fy mrwydrau gydag iechyd meddwl, a theimlad cyffredinol dw i’n meddwl bod bron pob “milflwyddol” dw i’n adnabod, yn teimlo hyn mewn rhyw ffordd. Cawsom ein magu yn yr amser llawn lliw hwn o ffyniant ac Americana, roedd y byd yn teimlo'n ddiderfyn, ac yna pan gyrhaeddodd oedolaeth fe wnaethom sylweddoli mai celwydd oedd popeth a addawyd i ni. Nid wyt bob amser yn cael bod yr hyn yr oeddet am ei fod, nid oes modd i ti gael yr hyn yr wyt ei eisiau, ac mae hynny'n iawn. Mae'r sioe yn ymwneud â'r anfodlonrwydd o hynny, a sut y gallem ddelio ag ef. Mae hefyd yn ymwneud â ni, gyda'n gilydd, yn ei gyfanrwydd.

 

Faint o ymchwil wyt ti wedi'i wneud ar gyfer The Tigerface Show?

Rydyn ni wedi gweithio'n helaeth ar y sioe. Mae wedi bod trwy sesiynau ymchwil a datblygu yn The Bristol Old Vic a dau o’r digwyddiadau wedi cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r rhain wedi bod yn gyfleoedd gwych i archwilio'r gwaith mewn llawer o wahanol ffyrdd. Bûm yn gweithio gyda phlant, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, coreograffwyr, dylunwyr, ysgrifenwyr caneuon, a nawr rydym yn barod o’r diwedd i fynd ar daith!

 

Pa fath o gynulleidfa fydd yn mwynhau dy sioe?

Dw i'n meddwl dylen nhw fod braidd yn fentrus, yn agored i brofiad newydd a chael blas ar ychydig bach o aflafaraidd! Mae yna lawer i bobl ei fwynhau, o'r manylion i'r teimlad a'r profiad cyffredinol. Mae’n sioe wyllt, a does dim pedwerydd wal, felly dw i’n siarad â’r gynulleidfa, ond nid mewn ffordd a ddylai wneud i neb deimlo’n nerfus.

 

Yn dy farn di, beth yw rhan fwyaf doniol y sioe?

Dw i'n hoff iawn o gymeriad Croc... dw i'n gwybod mai fi sy’n rheoli’r pyped ac yn gwneud ei lais, ond weithiau mae'r pethau mae'n ei ddweud yn fy nal i. Rwy'n arbennig o hoff o sut mae'n mynd ati i ysgrifennu caneuon a thiwnio ei lais ar gyfer y piano plant bach.


A oes ‘da ti unrhyw gynlluniau sioe yn y dyfodol ac a fyddi di’n taro'r ffordd eto gyda sioe newydd sbon?

Ni allaf aros i ddod i'r Torch a chwrdd â'r cynulleidfaoedd sydd ‘da ti yno. Byddai'n anhygoel gwneud cysylltiad â phob un ohonoch ac yna cyflwyno rhywfaint o waith yn y dyfodol. Mae fy holl waith yn edrych i gael sgwrs fanwl am iechyd meddwl mewn ffordd amharchus. Mae gennyf un syniad ar y gweill o’r enw Kara-okay, sef am Bar Karaoke lle rydym yn ymdrin â’r teimlad dyrys hwnnw; ‘mae’n iawn peidio â bod yn iawn’.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.