The Three Little Pigs Q&A

Yma yn Theatr y Torch, rydym yn ffans mawr o gwmni Lost The Plot Theatricals ac fe wnaethom fwynhau The Three Billy Goats Gruff yn fawr.  Ar ddydd Sadwrn, 17 Chwefror, cewch gyfle i weld eu cynhyrchiad newydd sbon – The Three Little Pigs, yma yn y Torch. Llwyddodd Anwen i gael sgwrs gyda Jessie Waterfield sy’n chwarae rhan Poppy.

Yn dilyn llwyddiant a sbri The Three Billy Goats Gruff yn y Torch y llynedd, beth all aelodau’r gynulleidfa ddisgwyl ei weld gyda The Three Little Pigs?

Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gwisgoedd lliwgar, chwerthin digon, caneuon bachog newydd, dawnsio a llawer o gyfranogiad ar gyfer moch bach o bob oed! Mae’n gasgenni o hwyl, gyda negeseuon pwysig i’w dysgu ar hyd y ffordd!

Dywedwch ychydig am y cymeriadau … pwy yw'r mochyn drygionus oll a pham?

Mochyn bach yw Penny sydd wrth ei bodd yn breuddwydio'n fawr. Mae ei chwiorydd yn meddwl bod ei meddwl i fyny yn y cymylau, ond mae Penny eisiau profi bod ei syniadau'n dda wedi'r cyfan.

Pat yw'r un glyfar sy'n meddwl ei bod hi'n gwybod fwyaf. Mae hi'n gallu bod yn dra-awdurdodus, ond mae hi bob amser am helpu ei Pig Pals.

Poppy yw'r un ddrwg yn bendant. Hi yw’r mochyn mwyaf diog o bell ffordd a’r cyfan mae Poppy am ei wneud yw cael llawer a llawer o hwyl! Mae hi bob amser yn torri corneli ac mae hi wrth ei bodd yn cael jôc. Mae digon o driciau gan y tri Mochyn yn y sioe hon serch hynny...

 

A oes gan unrhyw un o'r moch arferion neu nodweddion gwirion?

Nid yw Pat byth heb ei rhestr wirio ddibynadwy. Mae hi'n ysgrifennu popeth i lawr yn ofalus iawn, felly gall ei wirio gyda Thic!

Mae Poppy wrth ei bodd â siglo ac mae Penny bob amser yn breuddwydio am y dydd.

 

Fel cwmni, pryd ydych chi'n dechrau ymarfer cyn i chi fynd ar daith?

Fel arfer byddwn yn dechrau ymarferion yr wythnos cyn mynd ar daith. Rydyn ni bob amser yn dechrau gyda galwad leisiol i fynd dros y caneuon ac yna rydyn ni'n dysgu'r coreograffi. Mae ymarferion yn gyflym ond yn llawer o hwyl!

 

Beth fu’r rhan fwyaf hwyliog o’r ymarferion?

Y peth gorau yw gweld y sgript yn dod yn fyw. Rwyf wrth fy modd yn cael sioeau ar eu traed ac mae'r un hon yn wir yn hwyl i bob oed. Mae canu gyda’n gilydd am y tro cyntaf, ychwanegu’r holl bropiau a symudiadau a rhoi cynnig ar y gwisgoedd yn llawer o hwyl ac wrth gwrs mae cael tîm creadigol bendigedig i weithio gyda nhw yn gwneud y cyfan yn bleserus iawn.

 

Ydy'r sioe yn cynnwys llawer o ganeuon?

Mae yna lawer o ganeuon gwreiddiol i gael y traed moch hynny i dapio. Baledi, bops, raps a chymysgedd gwych. Mae ‘na rywbeth at ddant pawb mewn gwirionedd. Doedden ni ddim yn dweud celwydd pan ddywedon ni ei bod yn sioe gerdd oinctastig!

 

A fydd llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa?

O bydd! Gobeithio y byddwch yn hoffi afalau Pig Pals... Mae yna ganeuon i'w canu a direidi i'w gwneud, felly dewch yn barod i chwifio eich traed moch yn yr awyr a llonni ag oinc mawr gwych!

 

Ydy'r stori yn dilyn y plot gwreiddiol?

Dyma stori’r Tri Mochyn Bach rydyn ni’n ei nabod ac yn caru gan ddilyn Poppy, Pat a Penny wrth iddyn nhw adael y teulu yn llawn cyffro i chwilio am anturiaethau newydd ac i adeiladu eu cartref newydd! Mae yna dro hwyliog ar y plot gwreiddiol, ond bydd yn rhaid i chi aros i weld. Glywsoch chi fod blaidd yn rhydd ein plith?

 

Pam dewis Y Tri Mochyn Bach fel eich sioe deithiol newydd?

Roedd cynhyrchiad Lost The Plot o The Three Billy Goats Gruff wedi bod mor boblogaidd ar hyd a lled y wlad ac yn Llundain, fel ein bod ni am greu sioe newydd sbon! Rydyn ni'n hoffi dewis straeon tylwyth teg clasurol a dod o hyd i ffordd i'w hailadrodd mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol, felly roedd y Tri Mochyn Bach yn ymddangos yn ddewis amlwg. Mae'r holl gerddoriaeth yn ein sioeau yn wreiddiol ac yn sicr o'ch gadael yn mwmian y caneuon ar y ffordd adref. Gobeithiwn fod ein sioeau yn brofiad cyntaf gwych o theatr fyw i rai bach!

 

Rydych chi’n amlwg yn mwynhau dod i’r Torch yma yn Sir Benfro, beth yw’r atyniad?

Roeddem wrth ein bodd yn ein hymweliad â’r Torch gyda The Three Billy Goats Gruff ac yn sicr roedd yn uchafbwynt i’r daith. Ni’n methu aros i gwrdd â’r holl foch bach yn y gynulleidfa am brynhawn oinctastig!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.