THE THREE BILLY GOATS GRUFF

Ar fryn glaswelltog, ynghanol cefn gwlad, roedd TRI BWCH GAFR yn byw! Roedden nhw bob amser yn bwyta a chyn hir roedden nhw wedi bwyta popeth o fewn golwg! Yr unig opsiwn oedd ganddyn nhw oedd mynd i chwilota am borfa foethus.

Felly byddwch yn barod i ymuno â’r tri bwch gafr ar eu hantur wyllt wrth iddyn nhw groesi’r bont simsan yn ddewr i diroedd gwell. Ond pwy fydd yn tarfu ar eu taith wrth iddyn nhw drit- drotian dros y bont gyda dau berfformiad yn Theatr y Torch fis Chwefror hwn?

Mae’r stori antur boblogaidd i blant, Three Billy Goats Gruff (Tri Bwch Gafr) yn stori dylwyth teg Norwyaidd, ac mae’n cynnwys tri bwch gafr sydd angen trechu’r Trol ffyrnig i fynd dros y bont sy’n arwain at eu porfa flasus.

Gyda chaneuon taro troed, dawnsiau ffynci i guro dwylo a Throl sy’n creu cerddoriaeth rap… mae Lost The Plot Theatrical yn falch iawn cael cyflwyno’r sioe ryngweithiol hon, llawn hwyl ar gyfer y teulu cyfan! Mae’n sioe berffaith ar gyfer y plant bach a’r plant mawr sy’n eu cludo!

Mae cwmni Lost Plot Theatrical a sefydlwyd yn 2017, yn ymfalchïo mewn meithrin perthynas gref â’i gynulleidfaoedd. Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar swyno, ysbrydoli a pharchu cynulleidfaoedd. Nid yw eu sioe Billy Goats Gruff yn eithriad a hyd yma mae wedi derbyn adborth gwych gan gynulleidfaoedd ar draws y wlad.

“Es i â fy nith tair oed i weld y sioe a chafodd hi gymaint o hwyl! Unwaith roedd y sioe wedi gorffen roedd hi'n gofyn pryd oedd hi am ailddechrau! Roedd yn wych, byddwn yn bendant yn ei hargymell! ”… meddai un aelod o'r gynulleidfa.

Bydd The Three Billy Goats Gruff ar lwyfan Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ddydd Mercher 22 Chwefror 2023 am 11.30am a 2pm.

Tocynnau: Oedolion: £12.50 / £10.00 Consesiynau / Tocyn Teulu £40.00 a gellir eu harchebu o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk. 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.