THE ROYAL OPERA: THE MARRIAGE OF FIGARO
THE ROYAL OPERA: THE MARRIAGE OF FIGARO
Bydd dangosiad encôr o Marriage of Figaro gan y Royal Opera yn cael ei ddarlledu yn Theatr y Torch nos Iau 4 Mai am 6.45pm. Gyda’i themâu cyffredinol o gariad, anffyddlondeb a gwrthod, mae’r opera wych hon bob amser yn boblogaidd.
Mae’r gweision Figaro a Susanna yn llawn cyffro ar ddiwrnod eu priodas, ond mae yna drafferth: mae gan eu cyflogwr, yr Iarll Almaviva, ei fwriadau gwarthus ei hun tuag at y ddarpar briodferch. Gyda throeon trwstan niferus, bydd stori opera gomig Mozart yn eich synnu a’ch swyno bob tro.
Gyda Chorws Opera Brenhinol a Cherddorfa'r Tŷ Opera Brenhinol, mae'r rhai sy'n hoff o opera yn mynd i gael noson o fwynhad pur.
Dewch i Theatr y Torch am y gerddoriaeth ac arhoswch am hwyl o groeswisgo, a'r cyfan yn datblygu yn ystod un diwrnod gwallgof, blith draphlith ar aelwyd Almaviva. Mae Cyfarwyddwr Cerdd yr Opera Brenhinol, Antonio Pappano, yn arwain cast gwirioneddol ryngwladol yng nghynhyrchiad bythol David McVicar.
Sylwch mai dangosiad encôr yw hwn, ac nid darllediad byw yn Theatr y Torch ar nos Iau 4 Mai am 6.45pm
Bydd Marriage of Figaro yn cael ei dangos yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar nos Iau 4 Mai 2023 am 6.45pm. Tocynnau: £19 (llawn); £17 consesiwn, £8.50 U26. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau’r Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.