THE ROY ORBISON STORY 2023 YN THEATR Y TORCH
Bydd Barry Steele a chast gwych o gerddorion a chantorwyr yn eich cludo ar daiith gerddorol o 'The Black and White Night' i The Traveling Wilburys yn The Roy Orbison Story 2023. Ym mis Awst eleni, maen nhw’n addo y byddwch chi’n dawnsio yn yr eiliau, gyda dwy sioe wych mewn un noson arbennig yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau.
Ym 1988 perfformiodd Roy Orbison ochr yn ochr â Bruce Springsteen, Elvis Costello a KD Lang yn The Cocoanut Grove, Los Angeles yn yr hyn a oedd i ddod yn adnabyddus fel ‘The Black and White Night TV Special.’ Yn Barry Steele and Friends, mae’r noson yn agor gyda steil wrth iddyn nhw dalu teyrnged i'r sioe arobryn hon gyda'u fersiwn nhw o'r TV Classic.
Fel ffrind mawr i Roy Orbison, mae Chris Isaak wedi casglu nifer o wobrau ar ran Y Teulu Orbison - a adwaenir fel Orbison y 90au, recordiodd hefyd lawer o ganeuon poblogaidd Roy Orbison - yn Barry Steele and Friends, a dychwelir y ganmoliaeth fel Barry Steele yn cyflwyno fersiynau syfrdanol o ganeuon adnabydduus byd-eang megis 'Blue Hotel and Wicked Game'.
Yn 2017 cafodd caneuon poblogaidd Roy Orbison eu hailfeistroli gan gerddorfa The Philharmonic. Yn Barry Steele a’i Gyfeillion rydyn ni’n dod ag etifeddiaeth Roy Orbison i sioe’r 21ain Ganrif gyda fersiynau symffonig clodwiw o Heartbreak Radio, Blue Bayou, It’s Over ac wrth gwrs, Running Scared.
Ym 1988 ymunodd Roy Orbison â grŵp o artistiaid eiconig a adnabyddir ar y cyd fel ‘The Travelling Wilburys.’ Erys eu hetifeddiaeth gerddorol yr un mor hanfodol ac mor boblogaidd heddiw ag yr oedd yn ôl yn y dydd. Yn Barry Steele a’i Gyfeillion, mae’r cast cyfan yn dod at ei gilydd i ddathlu’r 35 mlynedd hynny ac yn wirioneddol ddiffinio ysbryd yr uwch-grŵp gwreiddiol hwn gyda’u fersiynau o’r campweithiau hynny. O Handle with Care i The End of The Line, mae ail sioe’r noson yn llawn dop o ‘Wilbury Magic.’
Archebwch nawr i brofi noson llawn hwyl ‘Roc a Rôl’ ac athrylith gerddorol gyfoes nos Wener 11 Awst am 7.30pm.
Gyda thafluniad sgrin fawr a llais anhygoel Barry Steele, mae gan y cynhyrchiad hwn o'r radd flaenaf rywbeth at ddant pawb!
Bydd y Roy Orbison Story 2023 yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Wener 11 Awst am 7.30pm. Tocynnau: £26. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.