Drama Newydd Orau'r Evening Standard Yn Ei Darlledu'n Fyw yn y Torch
Mae The Motive and the Cue, sy’n cael ei dal yn fyw o'r National Theatre yn Llundain, yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu ar draws y byd y mis hwn, a bydd yn cael ei darlledu'n fyw yn Theatr Torch ar nos Fawrth 26 Mawrth. Mae enwau mawr yn ymddangos ar y rhestr hon sef Mark Gatiss (Sherlock) a Johnny Flynn (Emma) wrth iddynt ymddangos yn y ddrama newydd ffyrnig a doniol hon sy’n dod ag ymarferion drwgenwog Richard Burton a John Gielgud Hamlet i’r sgrin fawr.
Mae’n 1964 yn Efrog Newydd a bydd Richard Burton, sydd newydd briodi ag Elizabeth Taylor, yn chwarae’r brif ran mewn cynhyrchiad Broadway newydd arbrofol o Hamlet o dan gyfarwyddyd manwl John Gielgud. Ond wrth i ymarferion fynd yn eu blaen, mae dwy oes o theatr yn gwrthdaro a buan iawn y mae’r cydweithio rhwng yr actor a’r cyfarwyddwr yn bygwth datod. Wedi’i hysgrifennu gan Jack Thorne (Harry Potter and the Cursed Child) a’i dylunio gan Es Devlin (The Crucible), cafodd y ddrama newydd orau, sydd wedi ennill gwobrau’r Evening Standard, ei ffilmio’n fyw yn ystod rhediad a werthwyd pob tocyn yn y National Theatre.
Wedi ei disgrifio gan y Financial Times fel “A brilliant, compassionate new play” ac yn “smooth and sophisticated” gan What’sOnStage, mae The Motive and the Cue yn addas ar gyfer 15+.
Caiff The Motive and the Cue ei dangos yn Theatr Torch ar nos Fawrth 26 Mawrth am 7.15pm. Pris tocyn: £15.00 | £13.00 Consesiwn | £8.50 o dan 26. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.