THE JABBERWOCKY & OTHER NONSENSE

Mae Calf 2 Cow yn mynd yn ôl ar y ffordd yr haf hwn am fis Awst llawn dop a bydd yn ymweld â Theatr y Torch! Yn dilyn haf bendigedig ar lan yr afon gyda Wind in the Willows, mae’r cwmni cynhyrchu poblogaidd yn ôl gyda’r addasiad newydd ffres hwn o The Jabberwock & Other Nonsense gan Lewis Caroll.

Mae'r hen antur hollti bol yn dod i Sir Benfro ac yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 31 Awst. Bydd yr addasiad newydd trawiadol hwn yn dilyn hanes enaid dewr o Wlad yr Haf wrth iddynt ddod o hyd i'r cleddyf vorpal a cheisio lladd y Jabberwock. Ond a yw'r bwystfil chwedlonol hwn mor ddrwg mewn gwirionedd? Darganfyddwch drosoch eich hunain yn y Torch!

Wedi’i dyfarnu’n bum seren gan The Arts Show a’i disgrifio fel “Trît perffaith i’r teulu cyfan,” mae The Jabberwock & Other Nonsense yn siŵr o blesio pawb.

Mae Calf 2 Cow Productions (C2C), sydd wedi’i leoli’n falch yng Nghaerfaddon, yn datblygu’n gyflym fel cwmni theatr comedi slapstig teithiol newydd sy’n creu theatr weledol iawn yn llawn roc a rôl byw, boncyrs ac anhrefn.

“Ein cenhadaeth yw creu a theithio theatr ddoniol sy’n gwthio’r ffiniau gan ddefnyddio adrodd straeon chwyslyd creadigol ac egnïol i bron bawb! Mae ein gwaith wedi’i weld ar draws y DU ac ychydig o weithiau yn Ewrop, felly rydym yn rhyngwladol mewn rhyw fath o ffordd,” meddai Calf 2 Cow, yr oedd ei gwaith diweddaraf yn cynnwys The Wave, stori antur ar y môr am dri môr-leidr yn sownd yn y tonnau, a’u brwydr i beidio mynd yn wallgof.

Bydd THE JABBERWOCKY & OTHER NONSENSE yn ymweld â Theatr y Torch  ar brynhawn ddydd Iau 31 Awst am 4pm. Tocynnau: Teulu £45.00 | Safonol £16 | Plentyn: £11. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.